Cyngor Sir Ynys Môn

Fy Nghyfrif Môn


Mae Fy Nghyfrif Môn yn caniatáu i chi reoli eich ceisiadau gwasanaeth a chyfrifon gyda ni.

Gallwch ddefnyddio Fy Nghyfrif Môn ar eich ffôn, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur personol i wneud ceisiadau gwasanaeth i'r cyngor a rheoli eich ceisiadau ar-lein.

Nid oes rhaid i chi greu cyfrif i ddefnyddio platfform Fy Nghyfrif Môn, ond rydym yn argymell eich bod yn gwneud hynny.

Ewch i Fy Nghyfrif Môn

Manteision creu cyfrif

Mae creu cyfrif yn arbed amser i chi gyda chwblhau eich manylion cyswllt yn awtomatig wrth lenwi ffurflenni a gallwch weld eich ceisiadau hanesyddol a'ch cyfrifon.

Mae'n llawer haws i ni drafod pethau gyda chi os oes gennych chi gyfrif.

Byddwch hefyd yn gallu gweld eich dyddiadau casglu biniau nesaf ar yr hafan unwaith y byddwch wedi mewngofnodi.

Creu cyfrif

  • Ewch i’r tudalen Fy Nghyfrif Môn.
  • Dilynwch y ddolen ‘Cofrestru’.
  • Rhowch y cyfeiriad e-bost yr ydych isiau ei ddefnyddio. Dyma fydd eich enw defnyddiwr.
  • Crëwch gyfrinair; bydd rhaid iddo gwrdd â’r gofynion cyfrinair.
  • Wedyn defnyddiwch y botwm ‘Cyflwyno’ i greu’r cyfrif.

Actifadu’r cyfrif

  • Yna byddwch yn cael neges yn dweud y bydd angen i chi wirio pwy ydych chi trwy fynd i'ch cyfrif e-bost.
  • Byddwch yn cael e-bost dwyieithog yn gofyn ichi actifadu eich cyfrif.
  • Bydd y ddolen actifadu yn yr e-bost yn mynd â chi i Fy Nghyfrif Môn.
  • Rhowch eich enw defnyddiwr (eich cyfeiriad e-bost) a'r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru a mewngofnodi.

Creu eich proffil

  • Cwblhewch fanylion eich proffil drwy ychwanegu eich enw, manylion cyswllt a chyfeiriad, ac yna defnyddiwch y botwm ‘Cyflwyno’ i gadw’r manylion hyn.

Yna byddwch yn cael eich tywys i'ch tudalen gartref newydd.

  • Ewch i dudalen we Fy Nghyfrif Môn.
  • Dilynwch y botwm mewngofnodi.
  • Dilynwch y ddolen ‘Wedi anghofio cyfrinair’.
  • Ar y sgrin nesaf, rhowch eich cyfeiriad e-bost a chyflwyno.
  • Byddwch yn cael e-bost gyda dolen ailosod cyfrinair.
  • Dilynwch y ddolen hon a rhowch gyfrinair newydd, cadarnhewch y cyfrinair newydd a'i gyflwyno.
  • Yna byddwch yn cael eich mewngofnodi'n awtomatig i'ch cyfrif.
  • Ewch i dudalen we Fy Nghyfrif Môn a mewngofnodwch i'ch cyfrif.
  • Mae dolen ar hafan eich ‘Fy Nghyfrif Môn’ i ddiweddaru eich cyfrif. Mae'r ddolen yn eistedd o fewn y neges groeso sy'n rhestru rhai o'ch manylion personol.
  • Gallwch chi ddiweddaru eich:
    • cyfeiriad e-bost
    • cyfrinair
    • proffil (gan gynnwys eich teitl, enw, dewisiadau iaith, rhifau ffôn, dull o gyfathrebu)
    • manylion cyswllt
    • cyfeiriad
  • Ar ôl gwneud unrhyw newidiadau, arbedwch nhw trwy ddefnyddio’r botwm ‘Cyflwyno’.

Weithiau, byddwn yn gofyn i chi am fwy o wybodaeth ar ôl i chi anfon ffurflen atom trwy Fy Nghyfrif Môn.

Byddwn ond yn gwneud hyn os ydych wedi cofrestru gyda ‘Fy Nghyfrif Môn’.

Pan fyddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth, bydd gennych 15 diwrnod i ddod yn ôl atom. Os na fyddwch yn dychwelyd atom, byddwn yn cau'r achos. Byddwch yn cael e-byst atgoffa rheolaidd cyn i ni gau'r achos.

Bydd angen i chi greu cais newydd os yw'r mater yn dal i fod yn rhywbeth yr hoffech wneud cais amdano neu ofyn i ni amdano.

Sut i ateb cais am ragor o wybodaeth

  • Os byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth, byddwch yn cael e-bost oddi wrthym.
  • Ar ôl darllen yr e-bost, mewngofnodwch i'ch Fy Nghyfrif Môn.
  • Ewch i ‘Fy ngheisiadau’ ac o dan y pennawd ‘Statws cais’ fe welwch y gair ‘Angen gweithred’ os ydym wedi gofyn i chi am ragor o wybodaeth.
  • Agorwch y cais.
  • Defnyddiwch y botwm ‘Parhau’ i weld pa wybodaeth rydym wedi gofyn amdani.
  • Atebwch y cais a’i anfon atom drwy ddefnyddio’r botwm ‘Cyflwyno’.
  • Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom eto, caiff y broses ei hailadrodd.