O dan Adran 9 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae gan Gyngor Sir Ynys Môn fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ddyletswydd i ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol. Mae hefyd yn cynnwys gofyniad i ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid perthnasol eraill yn y broses o ddatblygu'r strategaeth.
Mae’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd (SLRhPLl) a’r cynlluniau gweithredu yn amlinellu cynigion Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol yn yr ynys dros y 6 blynedd nesaf. Mae'r arolwg hwn yn gofyn am eich mewnbwn ar gynnwys yr SLRhPLl drafft ac mae'n cynnwys cwestiynau ar Strategaeth Ddrafft Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ddiwygiedig Cyngor Sir Ynys Môn a Chynlluniau Gweithredu, Adroddiad Amgylcheddol ar Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC).
Yn Ynys Môn, mae ein SLRhPLl wedi'i pharatoi ochr yn ochr â'n Cynllun Strategol Perygl Llifogydd. Fersiwn cryno o’r strategaeth yw’r cynllun strategol, ac mae’n egluro beth yw a pham y mae angen strategaeth rheoli perygl llifogydd.
Bwriedir cynnal y cyfnod ymgynghori rhwng 11 Tachwedd 2024 a 20 Rhagfyr 2024.
Pam bod eich barn chi’n bwysig
Mae cael adborth gennych chi’n hollbwysig i ni yng Nghyngor Sir Ynys Môn gan y byddai hyn yn sicrhau bod y Strategaeth a Chynlluniau Gweithredu yn adlewyrchu anghenion a phryderon y gymuned. Trwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, rydych yn ein helpu i wella rheolaeth perygl llifogydd yn eich ardal.
Os ydych chi wedi dioddef oherwydd llifogydd, mae eich adborth yn arbennig o bwysig i ni er mwyn helpu i sicrhau bod yr SLRhPLl a’r Cynlluniau Gweithredu mor effeithiol, teg a chynaliadwy â phosibl.
Bydd eich llais yn cyfrannu at lunio SLRhPLl sy'n adlewyrchu anghenion y gymuned.
Dweud eich dweud
Defnyddiwch ein holiadur ar-lein i ddweud eich dweud.
Ewch i'r holiadur ar-lein - dolen yn agor mewn tab newydd - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Sesiynau galw heibio
Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio yn y lleoliadau canlynol ar y dyddiadau a restrir isod pe baech am drafod y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol Drafft.
- Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2pm tan 7pm yng Nghanolfan Ebeneser, Llangefni, LL77 7PN
- Dydd Mercher 20 Tachwedd 2pm tan 7pm yn y Neuadd Goffa, Amlwch, LL68 9ET
- Dydd Llun 25 Tachwedd 2pm tan 7pm yn Neuadd y Dref, Biwmares,LL58 8AP
- Dydd Iau 28 Tachwedd 2pm tan 7pm yn Llyfrgell Caergybi, LL65 1HH
Copïau papur a fersiynau hawdd eu darllen
Mae copïau papur o'r holiadur a'r fersiwn hawdd ei ddarllen ar gael ar gais. Gallwch hefyd eu lawrlwytho o'r dudalen hon.
Mae'r arolwg hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cysylltwch â ni ar ynysmon@waterco.co.uk os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau.
Dogfennau ar gael ar gais
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd – Sgrinio - Hydref 2024
- Asesiad Amgylcheddol StrategolAdroddiad Amgylcheddol - Hydref 2024
Os hoffech gael copïau o unrhyw un o'r dogfennau hyn, e-bostiwch ynysmon@waterco.co.uk.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.