Cyngor Sir Ynys Môn

Porthladd Caergybi: arolwg effaith


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall yr effaith y mae cau Porthladd Caergybi wedi ei gael ar fusnesau.

Cyhoeddodd Stena Line ar 17 Rhagfyr 2024 y byddai Porthladd Caergybi yn aros ar gau i draffig fferi tan o leiaf 15 Ionawr 2025 i wneud gwaith atgyweirio brys.

Roedd hyn oherwydd difrod yn dilyn Storm Darragh ar ddechrau Rhagfyr.

Rydym eisiau eich barn

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi os ydych chi'n fusnes Cymreig ac mae cau Porthladd Caergybi wedi effeithio'n uniongyrchol arnoch chi.

Ni ddylai'r arolwg ar-lein gymryd mwy na 10 munud i'w gwblhau.

Ewch i'r arolwg ar-lein (yn agor tab newydd yn eich porwr) ynghylch cau Porthladd Caergybi - bydd y ddolen yn agor tab newydd