Cyngor Sir Ynys Môn

Darpariaeth addysg ôl-16


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn adolygu'r ddarpariaeth ôl-16 gan ei fod eisiau cryfhau hawliau a phrofiad dysgwyr ar Ynys Môn er enghraifft, trwy gynyddu'r dewisiadau sydd ar gael i ddysgwyr a sicrhau addysg ôl-16 o ansawdd uchel.

Pwrpas yr ymgysylltu hwn yw casglu safbwyntiau, barn a syniadau gan ddysgwyr, rhieni / gwarchodwyr, staff, llywodraethwyr, aelodau etholedig, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas â’r ddarpariaeth addysg ôl-16 ar gyfer Ynys Môn. 

Y darparwyr sydd wedi’u cynnwys yn yr adolygiad hwn yw:

  • Ysgol Syr Thomas Jones
  • Ysgol Uwchradd Caergybi
  • Ysgol Gyfun Llangefni
  • Ysgol David Hughes
  • Ysgol Uwchradd Bodedern
  • Grŵp Llandrillo Menai - Coleg Menai a Choleg Glynllifon

Beth ydym yn ei ofyn gennych chi?

Rydym yn gofyn i chi roi eich barn ar yr opsiynau isod. Os dymunwch gynnig opsiynau eraill, bydd y cyngor yn hapus i'w hystyried.

Yr opsiynau cychwynnol sy’n cael eu hystyried

  • Opsiwn 1: dim newid, cadw’r ddarpariaeth bresennol yn union fel y mae.
  • Opsiwn 2: datblygu perthynas waith agosach rhwng y darparwyr presennol.
  • Opsiwn 3: lleihau nifer yr ysgolion sy'n darparu addysg ôl-16.
  • Opsiwn 4: un darparwr i ddarparu'r holl addysg ôl-16.

Sut allwch chi roi eich barn i ni?

Arolwg ar-lein

Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg hwn yw 21 Chwefror 2025.

Ewch i ffurflen adborth ar-lein - linc yn agor mewn tab newydd - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Post

Mae fersiwn PDF o'n ffurflen adborth ar y dudalen we hon. Gallwch ei argraffu, ei lenwi â llaw a'i anfon at Rheolwr Rhaglen (Moderneiddio Ysgolion), Trawsnewid, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW.

E-bost

Gallwch anfon eich barn atom i ysgolionmon@ynysmon.llyw.cymru erbyn 21 Chwefror 2025.

Rhaid derbyn yr holl ymatebion erbyn 21 Chwefror 2025.

Sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb

Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb fel a ganlyn: 

Sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb
 Ysgol Rhanddeiliaid Dyddiad Amser
 Ysgol Gyfun Llangefni Dysgwyr- blwyddyn 7 i 13 4 Chwefror 2025 2:15pm tan 3:15pm
  Staff a llywodraethwyr 4 Chwefror 2025 4:45pm tan 5:45pm
  Rhieni/gwarchodwyr 4 Chwefror 2025 6pm tan 7pm
       
Ysgol Uwchrwadd Caergybi Dysgwyr- blwyddyn 7 i 13 5 Chwefror 2025 2:15pm tan 3:15pm
  Staff a llywodraethwyr 5 Chwefror 2025 4:45pm tan 5:45pm
  Rhieni/gwarchodwyr 5 Chwefror 2025 6pm tan 7pm
       
Ysgol Syr Thomas Jones Dysgwyr- blwyddyn 7 i 13 6 Chwefror 2025 2:15pm tan 3:15pm
  Staff a llywodraethwyr 6 Chwefror 2025 4:45pm tan 5:45pm
  Rhieni/gwarchodwyr 6 Chwefror 2025 6pm tan 7pm
       
Grŵp Llandrillo Menai (Coleg Menai Campus - Llangefni) Dysgwyr 7 Chwefror 2025 9.15am tan 10.15am
       
Ysgol David Hughes Dysgwyr- blwyddyn 7 i 13 10 Chwefror 2025 2:15pm tan 3:15pm
  Staff a llywodraethwyr 10 Chwefror 2025 4:45pm tan 5:45pm
  Rhieni/gwarchodwyr 10 Chwefror 2025 6pm tan 7pm
       
Ysgol Uwchradd Bodedern Dysgwyr- blwyddyn 7 i 13 11 Chwefror 2025 2:15pm tan 3:15pm
  Staff a llywodraethwyr 11 Chwefror 2025 4:45pm tan 5:45pm
  Rhieni/gwarchodwyr 11 Chwefror 2025 6pm tan 7pm

 

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.