Dweud eich dweud ar cyllideb refeniw
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gofyn i chi roi eich barn ar ei gynigion cyn gwneud penderfyniad terfynol ym mis Mawrth 2025 ar gyllideb y cyngor a lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2025 i 2026.
Arolwg ar-lein
Mae'r arolwg yn ddienw ac ni ofynnir i chi ddweud pwy ydych chi na ble rydych chi'n byw.
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw Dydd Gwener, 7 Chwefror 2025.
Ewch i'r arolwg ar-lein (yn agor tab newydd yn eich porwr)
Cefndir
Darllenwch y wybodaeth gefndir bwysig hon cyn cwblhau'r arolwg.
Pwysau ariannol parhaus
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol yn ystod 2024 yn sgil y cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol, delio â nifer gynyddol o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a gwasanaethau digartrefedd.
Er bod chwyddiant cyffredinol wedi disgyn i lefelau mwy arferol, mae costau cyflogau yn parhau i gynyddu ar gyfradd uwch na lefel chwyddiant cyffredinol a chan bod y cyngor yn gwario mwy ar gyflogau na dim byd arall, mae hyn yn bwysau ariannol yn sylweddol.
Mae’r pwysau ar gyflogau nid yn unig yn effeithio ar y cyngor, ond hefyd ei brif gontractwyr (casglu sbwriel, cinio ysgol, cynnal a chadw priffyrdd, cartrefi gofal a gofal yn y cartref). Mae’r pwysau ar gyflogau yn deillio o’r cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol a’r angen i fynd i’r afael â’r trafferthion recriwtio.
Ni all contractwyr amsugno’r costau ychwanegol ac felly maent yn gorfod codi mwy ar y cyngor.
Sefyllfa debyg i bob cyngor
Yng nghyllideb gyntaf y llywodraeth Lafur newydd ym mis Hydref 2024 roedd y swm a addawyd i Gymru’n uwch na’r disgwyl, fodd bynnag nid yw’r cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i’r 22 cyngor gan Lywodraeth Cymru yn ddigonol i gwrdd â’r holl bwysau y mae’r cynghorau yn eu hwynebu o ran galw a chostau.
Mae’r gyllideb hefyd wedi creu cost ychwanegol i’r cyngor a’i gontractwyr yn sgil y newid i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a rhagwelir y bydd y newid hwn yn ychwanegu tua £5m at gostau’r cyngor.
Grant Llywodraeth Cymru
Er y bod cyfanswm y grant gan Lywodraeth Cymru i gynghorau Gymru yn cynrychioli cynnydd o 4.3%, mae’r grant a ddyrannir i bob cyngor unigol yn cael ei gyfrifo drwy fformiwla ac o ganlyniad dim ond cynnydd o 3.6% y mae Ynys Môn wedi’i dderbyn.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn dan rwymedigaeth gyfreithiol i osod cyllideb sydd wedi’i hariannu’n llawn gan Grant Llywodraeth Cymru, y Dreth Gyngor a chronfeydd ariannol y cyngor ei hun. Yn 2024 i 2025, cafodd 69.3% o gyllideb y cyngor ei hariannu gan grant Llywodraeth Cymru, 28.3% gan y Dreth Gyngor a 2.4% gan falansau arian parod.
Er mwyn ariannu’r un faint o wasanaethau a ddarparwyd yn 2024 i 2025, ac ar ôl ystyried y cynnydd a ragwelir mewn prisiau a’r newid yn y galw am wasanaethau, rhagwelir y byddai’n rhaid cynyddu’r gyllideb £15m (8.1%). Ar ôl ystyried y cynnydd o 3.6% yn y grant gan Lywodraeth Cymru byddai’n rhaid cynyddu’r Dreth Gyngor 20% i ariannu’r gwariant hwn.
Cyngor yn edrych i gyfyngu ar gynnydd y Dreth Gyngor
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn deall pa mor anodd fyddai cynnydd o’r fath i drigolion ac felly mae’n cynnig cynyddu’r gyllideb £11m a defnyddio £2m o’i gronfeydd ariannol ei hun. Bydd hyn yn golygu cynnydd o 8.85% yn y Dreth Gyngor yn ogystal â 0.65% i ariannu cyfraniad y cyngor i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Bydd y cynnig hwn yn golygu y bydd y ffi ar gyfer eiddo Band D yn cynyddu £149.40, neu £2.87 yr wythnos. Er hyn, bydd Ynys Môn yn parhau i gynnig un o’r cyfraddau Band D isaf yng Nghymru.
Cronfeydd wrth gefn y cyngor
Bydd y cynnig yn golygu bod gan y cyngor oddeutu £10.5m ar ôl yn ei falansau cyffredinol, sydd gyfystyr â 5.4% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer 2025 i 2026.
Er y gall lefel y balansau cyffredinol fod yn is na'r ffigwr yma, byddai gostwng lefel y cronfeydd wrth gefn o dan y ffigwr yma’n cynyddu'r risg y gallai'r cyngor ddod yn fethdalwr a byddai’n rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad statudol i’r perwyl hwnnw.
Adroddiad manwl
Gallwch ddarllen adroddiad manwl ar gynigion cyllideb y cyngor hefyd cyn i chi ateb ein harolwg. Bydd y ddolen yn agor tab newydd yn eich porwr.