Daeth yr ymgynghoriad i ben 21 Mawrth 2022
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad statudol ar gynnig ar gyfer y ddarpariaeth addysg gynradd yn Ysgol Llandegfan.
Y cynnig yw i ostwng yr oedran mynediad i 3 i 11 oed yn Ysgol Llandegfan o 1 Medi 2022.
Bydd y cyfnod ymgynghori statudol yn rhedeg rhwng 7 Chwefror 2022 a hanner dydd 21 Mawrth 2022.
Mae'r ddogfen Ymgynghori Statudol, yr Asesiad Effaith (gan gynnwys yr iaith Gymraeg a’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol), a’r Ffurflen Ymateb ar gael isod:
Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys:
- dogfen ymgynghori statudol
- asesiad effaith ar gydraddoldeb (gan gynnwys yr iaith Gymraeg a’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol)
- ffurflen ymateb
Fformatau amgen
Os oes angen copïau caled neu mewn ffurf arall o unrhyw ddogfen arnoch, cysylltwch â ni trwy e-bostio GwynethHughes@ynysmon.gov.uk neu drwy gysylltu ar y ffôn 01248 752 908 .
Dweud eich dweud
Anfonwch y ffurflen ymateb yn ôl erbyn hanner dydd 21 Mawrth 2022 unai ar ebost i GwynethHughes@ynysmon.gov.uk neu postio at: Mrs Gwyneth Mon Hughes, Uwch Reolwr Llesiant, Gwasanaeth Dysgu, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.