Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Awst 2023
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Cyngor Sir Ynys Môn eisiau gwella darpariaeth teithio llesol (cerdded a beicio) ym Menllech.
Fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol. Bydd y cynllun hwn yn ei gwneud hi’n haws, yn fwy diogel, ac yn fwy cyfleus i fynd o gwmpas yr ardal ar droed, ar feic, ac i gael gwell mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.
Dweud eich dweud
Dywedwch wrthym os ydych yn cytuno ac a fydd y cynllun arfaethedig o fudd i chi. Os ddim, dywedwch wrthym pa welliannau pellach sydd eu hangen.
Bydd yr ymgynghoriad yn agor tan 5pm ar 16 Awst 2023.
Ewch i'r ymgynghoriad ar-len
Fersiwn hawdd i ddeall neu copi caled
Os oes angen unrhyw wybodaeth am yr ymgynghoriad arnoch ar ffurf ‘hawdd ei ddeall’, ar ffurf copi caled neu unrhyw fformat hygyrch arall, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad yn gyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Trafnidiaeth Gynaliadwy.
Ffôn: 01248 751805
E-bost: teithiollesol@ynysmon.llyw.cymru