Daeth yr ymgynghoriad i ben 9 Mehefin 2023
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn awyddus i glywed gan unigolion, grwpiau, sefydliadau a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb sylweddol yn y ffordd y bydd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn cael ei rheoli yn y dyfodol.
Y cynllun
Mae’r cynllun newydd hwn yn rhannu gwybodaeth am gryfderau’r rhanbarth, ardaloedd sy’n profi heriau neu rwystrau a chyfleoedd prosiect sy’n cymryd blaenoriaeth ar gyfer y dyfodol.
A ninnau mewn byd sy’n newid yn barhaus, mae angen lleoedd fel yr AHNE arnom yn fwy nag erioed fel lleoedd i natur ffynnu ac i bobl eu mwynhau a chysylltu â’r amgylchedd naturiol, treftadaeth a diwylliant.
Rydym angen economi ar gyfer ymwelwyr sy’n gynaliadwy ac sy’n cydbwyso anghenion preswylwyr, cymunedau ac ymwelwyr, gyda’r angen i gadw a gwella rhinweddau arbennig ar Ynys Môn, a dyna’r rheswm fod pobl yn dod i ymweld yn y lle cyntaf.
Bydd eich mewnbwn yn cyfrannu at y strategaethau ehangach ar gyfer y rhanbarth, fydd yn adnabod y gweithgarwch hanfodol ar gyfer gwella profiad ymwelwyr a’r economi ymwelwyr leol wrth symud ymlaen. Bydd hefyd yn sicrhau bod ein hamgylcheddau’n cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal â chyflawni ein nod o ddod yn garbon niwtral.
Mae gan y Cynllun Rheoli hwn hefyd ddylanwad sylweddol ar ymyriadau a blaenoriaethau cyllido ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol wrth symud ymlaen.
Drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn, rydych yn caniatáu Cyngor Sir Ynys Môn i storio’ch atebion, a’u defnyddio fel y nodir yn ein hysbysiad preifatrwydd.
Dweud eich dweud
Darllenwch y cynllun
Darllenwch y Cynllun Rheoli AHNE drafft 2023 i 2028.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cwblhewch yr arolwg ar-lein
Ar ôl darllen y cynllun, cwblhewch ein harolwg ar-lein.
Dyddiad cau: 9 Mehefin 2023
Ewch i arolwg rheoli AHNE ar-lein