Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Chwefror 2023
Ymgynghoriad gwreiddiol
Pwrpas
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw gofyn eich barn am y cynllun arfaethedig Teithio Llesol A5 Lôn Graig i Lôn Refail (cerdded a beicio).
Cefndir
Nid yw'r ddarpariaeth bresennol o droedffordd ar hyd Lôn Graig i Lôn Refail yn cydymffurfio â safonau Teithio Llesol yn bennaf oherwydd nad yw’r droedffordd yn ddigon llydan, diffyg uchder ymyl y pafin, diffyg parth diogelwch i’r ochr yn ogystal â gwelededd gwael.
Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys lledu'r llwybr presennol tua 1.3m o led i lwybr aml-ddefnydd 3m o led. Y bwriad yw gwneud hi’n haws, yn fwy diogel, ac yn fwy cyfleus i fynd o gwmpas yr ardal ar droed, ar feic, ac i gael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.
Fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol.
Dweud eich dweud
Gallwch rannu eich syniadau am Lwybr Teithio Llesol A5 arfaethedig Llanfairpwll trwy glicio ar y ddolen isod a chwblhau’r arolwg byr.
Daeth yr arolwg ar-lein i ben 15 Chwefror 2023.
Beth nesaf?
Byddwn yn casglu eich holl ymatebion o'r arolwg.
Defnyddir eich ymatebion i lywio a dylanwadu ar ddyluniad terfynol llwybr Teithio Llesol arfaethedig yr A5 Llanfairpwll.
Gellir trefnu copïau papur o’r arolwg ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn gallu cael mynediad at y deunyddiau ymgysylltu ar-lein.
Gwybodaeth bellach
Ffôn: 01248 752 300
E-bost: TeithioLlesol@ynysmon.llyw.cymru