Sut y gallaf ddod o hyd i gymorth?
Mae ystod eang o wasanaethau a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer y gymuned lluoedd arfog ar gael gan y sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a’r trydydd sector ond yn aml gall fod yn anodd dod o hyd i’r sefydliadau gorau i helpu.
Gweler isod wybodaeth wedi’i drefnu yn ôl themâu er mwyn dod o hyd i sefydliadau cenedlaethol a lleol a fydd yn gallu helpu a rhoi cyngor.
Cynllun Grant Cyfamod Cymunedol
Mae’r Cynllun Grant Cyfamod Cymunedol yn darparu cymorth ariannol i brosiectau ar y lefel leol, sy’n cryfhau’r cysylltiadau neu’r gyd-ddealltwriaeth rhwng aelodau o’r Gymuned Lluoedd Arfog a’r gymuned ehangach. Am wybodaeth bellach ewch i: https://www.gov.uk/community-covenant-grant-scheme
Rhif cyswllt Ynys Môn: 01248 750057
Siaradwch ag un o’n staff gwybodus sy’n gallu delio â phob un o’ch ymholiadau.