Diffiniad o gwyn
P’un a yw’n ymwneud â’r cyngor ei hun, rhywun sy’n gweithredu ar ei ran, neu bartneriaeth, mae cwyn :
- yn fynegiant o anfoddhad neu bryder
- ar lafar neu’n ysgrifenedig neu wedi ei wneud drwy unrhyw ddull cyfathrebu arall
- wedi ei wneud gan un aelod o’r cyhoedd neu ragor
- yn ymwneud â’r hyn a wnaed neu’r hyn na wnaed gan y Cyngor
- yn ymwneud â safon gwasanaeth a ddarperir
Nid yw cwyn:
- yn gais cychwynnol am wasanaeth, fel dweud nad yw bin wedi ei wagio
- yn apêl yn erbyn penderfyniad sydd wedi ei wneud yn briodol
- yn ffordd o geisio newid deddfwriaeth neu benderfyniad polisi sydd wedi ei wneud yn briodol
- yn ffordd o lobïo grwpiau/sefydliadau i geisio hyrwyddo achos
Mae’r Polisi Pryderon a Chwynion yn rhan o Gyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn (rhan 5.7).
Fel arfer bydd modd delio â chwyn yn y fan a’r lle drwy drafod gyda’r sawl sy’n darparu’r gwasanaeth e.e. y swyddog wrth y dderbynfa, staff y ganolfan hamdden, gyrrwr y fan neu’r gweithwyr ffordd. Os oes gennych ymholiad cyffredinol neu sylw am Gyngor Sir Ynys Môn neu am wasanaethau'r Cyngor, llenwch ein ffurflen ar-lein.
Cwyn swyddogol
Os nad yw hyn yn datrys y broblem, mae gennych hawl i wneud cwyn swyddogol.
Gallwch wneud cwyn swyddogol arlein neu drwy lawrlwytho'r ffurflen gwyno swyddogol a'i hanfon at: Y Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol a Chwynion, Yr Adran Gyfreithiol, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW.
Gallwch chi hefyd:
Gwasanaethau cymdeithasol
Mae gan y gwasanaethau cymdeithasol weithdrefn adrannol statudol.
Adran addysg
Cwynion ynglŷn ag ysgolion
Ni allwn ymateb i gwynion am ysgolion unigol. Mae Deddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu bob ysgol a gynhelir yng Nghymru sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion gan rieni, disgyblion, staff, llywodraethwyr ac aelodau o’r gymuned leol.
Bydd gan yr ysgol bolisi/gweithdrefn gwynion ar gael ar wefan yr ysgol neu drwy gysylltu â’r ysgol.
Yn y lle cyntaf, dylech drafod y cwyn â’r pennaeth, a fydd hefyd yn gallu rhoi mwy o gyngor i chi ynglŷn â threfn gwyno’r ysgol. Mae’n rhaid i unrhyw bolisi cwynion ysgol gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru (Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethu Ysgolion: Cylchlythyr 011/2012), sy’n weithdrefn tri cham:
Cam A
Os oes gennych bryder, yn aml gallwch ei ddatrys yn gyflym drwy siarad â'r pennaeth. Dylech ddisgwyl ymateb o fewn 10 diwrnod ysgol ond os nad yw hyn yn bosib, dylai'r ysgol gytuno ar amserlen ddiwygiedig gyda chi. Bydd y person sy'n goruchwylio eich cwyn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddiweddariadau.
DS Os yw'r gŵyn am y pennaeth yna dylid rhoi eich cwyn yn ysgrifenedig at gadeirydd y llywodraethwyr yn uniongyrchol gyda chyfeiriad yr ysgol arni.
Cam B
Os credwch nad yw’ch cwyn gwreiddiol wedi’i datrys, neu fod yr ysgol heb ymdrin â hi’n briodol, dylech wneud eich cwyn yn ysgrifenedig i’r pennaeth.
Cam C
Ni ddylid mynd ymlaen i Gam C dim ond mewn sefyllfaoedd eithriadol, gan y dylai fod modd datrys y rhan helaeth o gwynion yng Ngham B. Fodd bynnag, os ydych chi’n dal o’r farn na ddeliwyd yn deg â’ch cwyn, dylech ysgrifennu at gadeirydd y llywodraethwyr, gan ddefnyddio cyfeiriad yr ysgol, ac esbonio’ch rhesymau dros ofyn i bwyllgor cwynion y corff llywodraethol ystyried eich cwyn. Ni fydd rhaid i chi ysgrifennu holl fanylion eich cwyn eto.
Pwyllgor cwynion y corff llywodraethol sy’n penderfynu’n derfynol ar bob cwyn.
Cwynion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg
Os hoffech wneud cwyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau'r Gymraeg neu fethiant ar ran y Cyngor i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, defnyddiwch y weithdrefn hon, os gwelwch yn dda.
Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg yn uniongyrchol at Gomisiynydd y Gymraeg.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.