Cyngor Sir Ynys Môn

Cysylltwch â ni


Os oes gennych ymholiad cyffredinol, sylwadau neu ganmoliaeth am Gyngor Sir Ynys Môn neu am wasanaeth y Cyngor, defnyddiwch y Ffurflen Ymholiad Cyffredinol.

Gallwch gyflwyno ymholiad cyffredinol yn ddienw.

Os yr hoffech i ni'ch diweddaru ynglŷn â'r cais yma yn y dyfodol, rydym yn argymell i chi fewngofnodi i Fy Nghyfrif Môn.

Gallwch ffonio prif rif ffôn y cyngor 01248 750 057 a gwrando ar yr opsiynau sydd ar gael.

Mae’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau bellach ar gael ar-lein, neu anfonwch neges e-bost at cyswlltmon@ynysmon.llyw.cymru

Ewch i dudalen Cyswllt Môn am wybodaeth pellach.

Os wnewch alw pan fydd Cyswllt Môn ar gau byddwch yn clywed neges sy'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a rhifau ffôn argyfwng. Rydym ar gau yn ystod gwyliau cyhoeddus y DU. 

Mae rhifau ffôn argyfwng ar gyfer y tu allan i oriau swyddfa arferol, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus, ar gael ar gyfer y gwasanaethau canlynol:

Priffyrdd: 01248 723062

Tai: 08081 68 56 52

Gwasanaethau Cymdeithasol: 01248 353551

Galw Gofal: 0300 1236688

Os nad oes gennych gyfeiriad post uniongyrchol y gwasanaeth yr hoffech gysylltu â hi (rhestrir y cyfeiriadau post ar dudalennau cyswllt y gwasanaeth unigol neu ar filiau neu lythyrau a anfonwn), ysgrifennwch at y prif gyfeiriad post yn:

Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

Defnyddiwch ein Chwiliad Safle ar frig pob tudalen i ddarganfod y gwasanaeth rydych ei angen. Cofiwch ddyfynnu unrhyw rifau cyfeirio / enwau staff perthnasol yr ydych yn delio â nhw.

Gofynnir i newyddiadurwyr beidio â chysylltu ag adrannau unigol. Bydd ein Swyddfa Wasg yn falch i'ch cynorthwyo a threfnu i lefarydd priodol fod ar gael i chi ar 01248 752130 neu 01248 752128 Rydym yn croesawu galwadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

Gwneud cwyn swyddogol

Fel arfer, gellir ymdrin â chwynion yn y fan a'r lle trwy gael gair gyda'r person sy'n darparu'r gwasanaeth. Gallai hyn fod yn dderbynnydd, staff yn y ganolfan hamdden leol, gyrrwr fan neu bobl ffordd.

Os na ellir setlo'ch problem yno, gallwch wneud cwyn swyddogol.

Gwasanaethau cymdeithasol

Sylwch fod yna weithdrefn gwyno ar wahân ar gyfer wasanaethau cymdeithasol

Rhaid gyflwyno ceisiadau am wybodaeth tryw’r post i’r Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol (Adain Gyfreithiol) neu gellir danfon eich cais drwy ddefnyddio ein ffurflen arlinell isod.

Cyflwyno eich Cais Rhyddid Gwybodaeth - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Mae croeso cynnes yng Nghymru i bawb o Wcráin sy'n ffoi rhag y rhyfel.

Rydym yn gwybod bod pobl Ynys Môn yn awyddus i helpu.

Darganfod mwy