Oes gennych chi rai o’r rhinweddau canlynol?
- Angerdd
- Ymrwymiad
- Natur Gyfeillgar
- Sgiliau Cyfathrebu Da
- Empathi
- Amynedd
Os mai oes oedd eich ateb, ydych chi erioed wedi meddwl am weithio neu wirfoddoli yn y sector gofal cymdeithasol?
Mae Cymru angen tua 20,000 yn fwy o bobl i weithio yn y sector gofal erbyn 2030.
Mae nifer o lwybrau y gellir eu dilyn er mwyn cael gyrfa mewn gofal cymdeithasol.
Mae angen i weithwyr gofal cymdeithasol ddarparu gwasanaethau mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd er enghraifft, cartref unigolyn, canolfan ddydd neu fannau preswyl.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn angen i weithwyr fod â chymwysterau ffurfiol ac i gofrestru fel gweithwyr proffesiynol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Fodd bynnag, mae’n bosibl i ddod yn gynorthwyydd gofal neu’n weithiwr cefnogi heb y cymwysterau cychwynnol hyn gan fod yr Awdurdod wedi ymrwymo i gefnogi staff gofal cymdeithasol i gyflawni cymwysterau a datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth.
Mae nifer o weithwyr gofal cymdeithasol yn dechrau eu gyrfaoedd fel gweithwyr gofal cartref neu gynorthwywyr gofal ond gyda phrofiad a chymwysterau gallant ddatblygu i gyflawni rolau megis uwch weithwyr gofal, rolau rheolwyr gwasanaeth, gweithwyr cymdeithasol neu swyddi gofal/gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Mae gwybodaeth bellach am ofynion cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol ar gael gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Eisiau dod i wybod mwy?
Er mwyn dod i wybod mwy am weithio yn y sector gofal cymdeithasol, ymwelwch â gwefannau’r sefydliadau isod:
Eisiau ymgeisio am rôl?
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am swydd neu waith achlysurol gyda’r awdurdod, ymwelwch â’n safle recriwtio drwy ddilyn y ddolen isod:
Cyfleoedd profiad gwaith
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael profiad gwaith di-dâl, dilynwch y ddolen isod:
Gwaith cymdeithasol M.A
Mae Cynghorau Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor er mwyn datblygu, darparu a rheoli’r rhaglen M.A. gwaith cymdeithasol. Mae’r awdurdod yn cefnogi’r Brifysgol gyda recriwtio, dewis myfyrwyr a chyfrannu at ddysgu ac asesu’r myfyrwyr gwaith cymdeithasol.
Darperir cyfleoedd i ymarfer dysgu gan yr Awdurdod ynghyd â sefydliadau gofal cymdeithasol eraill ar Ynys Môn er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gref o ymarferion gwaith cymdeithasol ochr yn ochr â’u datblygiad academaidd.
Ar ôl cymhwyso, mae cyfleoedd am swyddi mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd iechyd neu ofal cymdeithasol, yn aml yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill mewn timau aml-ddisgyblaethol.
Yn ogystal â sefyllfaoedd gwaith cymdeithasol statudol megis timau plant a theuluoedd, timau anableddau dysgu, timau oedolion a thimau iechyd meddwl cymunedol, gall gweithwyr cymdeithasol gael eu cyflogi mewn ysbytai, fel rhan o brosiectau datblygu cymunedol neu gyda sefydliadau anstatudol, yn cefnogi ffoaduriaid neu geiswyr lloches o bosibl neu’n gweithio â rhieni ifanc sydd angen cefnogaeth.