Mae Pwyllgorau Sgriwtini y Cyngor yn awyddus i gael clywed barn poblogaeth yr Ynys a chael gwybod beth sy’n creu pryder i’r bobl y gwasanaethwn.
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi, fel aelod o’r cyhoedd, gymryd rhan yn Sgriwtini:
- drwy awgrymu pwnc ar gyfer adolygiad
- drwy fynychu cyfarfodydd fel arsylwyr
- drwy wneud cais er mwyn siarad ar bwnc penodol yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor – gwelir y dudalen ar Protocol Siarad Cyhoeddus Mewn Cyfarfodydd o Bwyllgorau Sgriwtini
- trwy gymryd rhan mewn ymchwiliadau sgriwtini ar wahoddiad gan Banel Adolygu Sgriwtini
- trwy gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig berthnasol i ymchwiliad sgriwtini ar wahoddiad i wneud hynny
Os ydych yn dymuno awgrymu pwnc ar gyfer adolygiad, lawr lwythwch gopi Word neu PDF o’r ffurflen awgrymiadau (gweler y tab Dogfennau i’w lawrlwytho uchod) a’i hanfon yn ôl at y Tîm Sgriwtini drwy’r post:
Sgriwtini, Busnes y Cyngor, Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW neu llenwch ein ffurflen ar-lein.
Cysylltu â Sgriwtini
Sgriwtini
Busnes y Cyngor
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
E-bost: sgriwtiniscrutiny@ynysmon.llyw.cymru
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.