Cyngor Sir Ynys Môn

Etholiad cynghorydd dros rhanbarth etholiadol Talybolion


Nifer y Cynghorwyr i’w hethol : 1

  1. Cynhelir Etholiad Cynghorydd Sir dros y rhanbarth etholiadol Talybolion.
  2. Gellir cael papurau enwebu o swyddfeydd y Swyddog Canlyniadau, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW ar ddyddiau’r wythnos rhwng 10am a 4pm neu yn electronig.
  3. Rhaid danfon papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW ar unrhyw ddiwrnod o’r diwrnod ar ôl cyhoeddi’r rhybudd hwn, ar ddiwrnodau’r wythnos rhwng 10am a 4pm (ac eithrio gwyliau’r banc) neu’n electronig yn unol á’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflenwi electronig isod ond ddim hwyrach na 4pm ar Ddydd Gwener, 27 Medi 2024
  4.  Os bydd yr etholiad yn cael ei hymladd cynhelir y bleidlais ar Ddydd Iau, 24 Hydref 2024.
  5. Rhaid i geisiadau, diwygiadau neu ddiddymiadau pleidleisiau post newydd a phresennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW  erbyn 5pm arDdydd Mercher, 9 Hydref 2024.
  6. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5pm ar Ddydd Mercher, 16 Hydref 2024.
  7. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy mewn argyfwng gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW   erbyn 5pm ar Ddydd Iau, 24 Hydref 2024.
  8. Mae’n rhaid i geisiadau i ychwanegu at gofrestr etholwyr ar gyfer pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn Dydd Mawrth, 8 Hydref 2024.  Gellir gwneud ceisiadau ar-lein drwy wefan cofrestru i bleidleisio.

Datganiad Cyflwyniadau Electronig

Gellir cyflwyno enwebiadau yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad hwn. 

  • Gellir cyflwyno papurau enwebu drwy’r cyfeiriad enwebiadau@ynysmon.llyw.cymru 
  • Rhaid i chi gyflwyno eich papur enwebu fel atodiad, dogfennau PDF neu Word sy’n cael eu ffafrio
  • Byddwch yn derbyn ymateb wedi’i hawtomeiddio unwaith y bydd eich enwebiad wedi cyrraedd. 

Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad er mwyn rhoi gwybod i ymgeiswyr o’u penderfyniad o ran a yw eu henwebiad yn ddilys.

Dylan J Williams
Swyddog Canlyniadau 

19 Medi 2024

Rydym yn cynghori i chi ofyn am archwiliad anffurfiol o’ch papurau enwebu gyda staff cyn i chi eu cyflwyno, ni allwn dderbyn copïau drwy’r post neu ffacs. Gallwn dim ond derbyn dogfennau gwreiddiol a gyflwynwyd drwy law neu drwy datganiad cyflwyniadau electronig.  I drefnu archwiliad anffurfiol, cysylltwch â'r swyddfa ar 01248 752548 neu e-bostiwch etholiadau@ynysmon.llyw.cymru

Templed allanol yw hwn a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Etholiadol.

Pecyn enwebu - bydd y ddolen yn agor tab newydd