Mae’r Gwasanaethau Etholiadol bob amser yn ceisio recriwtio staff ymroddedig a dynamig i lenwi unrhyw swyddi gwag. Byddem yn falch o glywed gennych os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan.
Gweithio mewn gorsaf bleidleisio
Mae staff Gorsaf Bleidleisio yn cael eu penodi gan y Swyddog Canlyniadau ac maent yn gyfrifol am y papurau pleidleisio, gan sicrhau bod gweithdrefnau priodol ar gyfer pleidleisio yn cael eu dilyn. Ar ddiwrnod yr etholiad, mae’n rhaid i staff gorsaf bleidleisio fod ar ddyletswydd o 6:30am tan ychydig ar ôl 10pm. Bydd yn ofynnol i holl staff a gyflogir i weithio mewn gorsaf bleidleisio fynychu sesiwn hyfforddiant cyn eu penodiad.
Gweithio yn y cyfrif
Mae cynorthwywyr cyfrif yn cael eu penodi gan y Swyddog Canlyniadau i wirio a chyfrif y pleidleisiau yn y gorsafoedd pleidleisio, ynghyd â’r pleidleisiau post a dderbyniwyd yn y cyfnod hyd at y diwrnod pleidleisio. Gall y gwirio a chyfrif ddigwydd ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau (10pm ar y diwrnod pleidleisio), neu’r bore canlynol.
Cynhelir y cyfrif yn Plas Arthur.
Pwy sy’n gymwys
I weithio yn yr etholiadau, mae’n rhaid i chi:
- fod o leiaf 18 oed
- fod â’r hawl i weithio yn y DU (yn unol â'r Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996)
- beidio cael eich cyflogi na pherthyn i ymgeisydd posibl
- beidio gweithio ar ran ymgeisydd na phlaid gwleidyddol i weithio fel staff pleidleisio na chyfrif
- cytuno i weithio mwy na’r oriau gwaith arferol a ddarperir gan y gyfarwyddeb oriau gwaith
Sut i wneud cais
Gallwch ymgeisio ar-lein i weithio mewn etholiadau – nid ydym yn derbyn CV. I gwblhau’r ffurflen ar-lein byddwch angen cyfeiriad e-bost dilys.
Gwneud cais ar-lein - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Ar ôl ymgeisio i weithio yn yr etholiadau
Byddwn yn ystyried profiad, argaeledd a lle mae unigolyn yn byw wrth gynnig swydd.
Mae pob penodiad dros dro ac os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich cyflogi gan y Swyddog Canlyniadau (nid Cyngor Sir Ynys Môn).
Nid yw cael eich penodi i weithio mewn etholiad yn sicrhau gwaith mewn etholiadau yn y dyfodol. Mae yna fwy o geisiadau na swyddi yn aml ac os na fydd rhywun yn cael cynnig swydd yna byddant yn cael eu hychwanegu at ein rhestr staffio i lenwi swyddi os oes yna swyddi gwag.
Ni fyddwn yn gallu ymateb i bob cais.
Rhagor o wybodaeth
Mae swyddi Etholiad Achlysurol yn cael eu cyflogi gan y Swyddog Canlyniadau ac nid gan Cyngor Sir Ynys Môn.
Mae swyddi etholiad yn cael eu talu ar sail 'talu wrth ennill' (PAYE), sy’n golygu y gellir tynnu treth o enillion. Os nad ydych yn drethdalwr byddwch yn gyfrifol am hawlio’r dreth yn ôl gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).
Fodd bynnag, mae ffioedd a delir ar gyfer gwaith etholiad yn rhydd o gyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol.