Mae angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.
Mae hyn yn berthnasol i:
- etholiadau seneddol y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol
- is-etholiadau
- deisebau adalw
- etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Ni fydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu mewn etholiadau cynghorau lleol.
Mae rhagor o wybodaeth am Brawf Adnabod i Bleidleisio ar gael ar wefan Y Comisiwn Etholiadol.
Canllaw fideo: Yr etholiadau sydd angen ID pleidleisiwr yng Nghymru - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Ffurfiau o brawf adnabod â llun a dderbynnir
Gallwch chi ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau canlynol a dderbynnir o Brawf Adnabod â llun pan fyddwch chi’n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.
Ffurfiau o Brawf Adnabod â llun a dderbynir
Teithio rhyngwladol |
- Pasbort wedi’i gyflwyno gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu un o wledydd y Gymanwlad.
|
Gyrru a pharcio |
- Trwydded yrru wedi’i chyflwyno gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd
- Bathodyn Glas
|
Teithio lleol |
- Cerdyn Bws Unigolyn Hŷn
- Cerdyn Bws Unigolyn Anabl
- Cerdyn Oyster 60+
- Pàs Freedom
- Cerdyn Hawl Cenedlaethol yr Alban
- Cerdyn Teithio Rhatach i Bobl 60 Oed a Throsodd yng Nghymru
- Cerdyn Teithio Rhatach i Bobl Anabl yng Nghymru
- SmartPass i Bobl Hŷn a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass i bobl sydd wedi’u cofrestru’n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass Anabledd Rhyfel a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass 60+ a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass Hanner Pris a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
|
Prawf o’ch oedran |
- Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)
|
Dogfennau eraill wedi’u cyflwyno gan y llywodraeth |
- Dogfen mewnfudo biometrig
- Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
- Cerdyn adnabod cenedlaethol wedi’i gyflwyno gan wladwriaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd
- Cerdyn Adnabod Etholiadol a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
- Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
- Dogfen Etholwr Dienw
|
Un dull o brawf adnabod â llun yn unig y bydd angen i chi ei ddangos ac mae’n rhaid i chi gyflwyno’r fersiwn gwreiddiol ac nid llun-gopi ohono.
Prawf adnabod â llun sydd wedi dod i ben
Gallwch ddefnyddio’ch Prawf Adnabod â llun os yw wedi dod i ben, cyn belled â’i fod yn edrych fel chi.
Dylai’r enw ar eich Prawf Adnabod fod yr un enw y gwnaethoch chi ei ddefnyddio i bleidleisio.
Os nad oes gennych chi brawf adnabod â llun a dderbynnir
Gallwch chi wneud cais am ddogfen prawf adnabod i bleidleisio yn rhad ac am ddim, y caiff ei alw’n Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, os:
- nad oes gennych chi Brawf Adnabod â llun a dderbynnir
- nad ydych chi’n siŵr a yw eich Prawf Adnabod â llun yn dal i edrych fel chi
- ydych chi’n poeni am ddefnyddio dull adnabod sy'n bodoli am unrhyw reswm arall, fel marciwr rhywedd sydd wedi’i ddefnyddio
Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio cyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr (dim ond os nad ydych chi wedi cofrestru’n barod y dylech chi wneud hyn)
Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar gyfer Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar gael ar wefan Y Comisiwn Etholiadol
Canllaw fideo: Y mathau o ID â llun y gallwch eu defnyddio i bleidleisio yng Nghymru
Os oes angen cymorth arnoch chi
Os oes angen cymorth a chefnogaeth arnoch chi i wneud cais ar-lein, gallwn ni helpu. Gallwch chi gael cymorth i dynnu’ch llun a’i uwchlwytho drwy gysylltu gyda’r Swyddfa Etholiadau ar 01248 752548 neu Swyddfeydd y Cyngor Sir, Llangefni, LL77 7TW.