Er mwyn i’r gofrestr etholiadol gael ei diweddaru a’i gwirio rydym yn cynnal canfasio blynyddol sef ymgyrch cofrestru pleidleiswyr.
Rydym yn ysgrifennu i bob eiddo yn Ynys Môn yn gofyn i chi gadarnhau a yw’r manylion sydd gennym ar gyfer eich eiddo ar y gofrestr etholiadol yn gywir. Yna byddwn yn cyhoeddi cofrestr etholiadol newydd ar 1 Rhagfyr.
Mae’n bwysig eich bod yn darllen y ffurflen yn ofalus ac yn gwirio bod pawb sy’n byw yn eich eiddo (sy’n gymwys i bleidleisio) wedi’u rhestru ar y ffurflen.
Os oes gwybodaeth ar goll, yna mae angen i chi gysylltu â ni i roi gwybod.
Mae'r gyfraith ar sut yr ydym yn cyflawni'r canfas blynyddol wedi newid. Yn wahanol i'r gorffennol, mae'r etholwyr sydd gennym ar ein cofrestr yn cael eu cymharu gyda data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Bydd hyn yn ein helpu i ddod o hyd i eiddo lle mae preswylwyr o bosib wedi newid. Bydd y wybodaeth hefyd yn ein helpu i benderfynu sut fath o ohebiaeth y byddwn yn ei anfon allan i'r eiddo.
Mae gwybodaeth fanwl ar y newidiadau i'w gael ar Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfas Blynyddol) (Diwygio) 2019.
Bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio yn Etholiadau'r Senedd ac Etholidau Llywodraeth Lleol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni rwan gofrestru pobl ifanc 14 a 15 oed. Os oes gennych chi rhywun sy'n byw yn eich eiddo sy'n 14 oed neu hŷn, mae hi bellach yn bosib eu hychwanegu nhw i'r gofrestr etholiadol fel pan fydda nhw'n troi yn 16 oedd bydd posib iddyn nhw bleidleisio yn yr etholiadau hyn.
Hefyd bydd yr holl ddinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, o'r Gymanwlad neu'r UE sydd wedi cael pleidleisio. Mae hyn yn golygu os ydych o wlad arall ar wahân i'r rhain gallwch bleidleisio yn yr etholiadau uchod.
Mae gwybodaeth fanwl ar y newidiadau i'w gael ar Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.
Byddwn yn cysylltu â phob aelwyd yn Ynys Môn. Gall hyn fod drwy anfon ar bapur i eiddo neu gysylltu ag unigolion yn defnyddion e-bost, neges testun neu drwy alwad ffôn. Os na fyddwn yn derbyn ymateb pan fyddwn ni angen un yn gyfreithiol, mae'n rhaid i ni geisio gysylltu unwaith eto. Gall hynny fod drwy ddull gwahanol i'r dull cyntaf.
Mae'n bwysig eich bod yn darllen y ohebiaeth a anfonwyd gennym atoch yn ofalus (yn llythyr, ffurflen neu e-bost). Byddwch angen dilyn y cyfarwyddiadau i wneud yn siŵr fod pawb sydd yn byw yn eich eiddo (sydd yn cael pleidleisio) wedi cofrestru. Os oes gwybodaeth ar goll yna rhaid i chi gysylltu â ni i roi gwybod i ni.
Os oes unrhyw pobl ifanc 14 i 17 oed neu ddinasyddion tramor eraill yn byw yn eich eiddo sydd heb eu rhestru yna byddwn angen eu manylion nhw hefyd. Byddem yn gwerthfawrogi ymateb sydyn fel nad oes angen anfon nodyn atgoffa atoch.
Gwerthgawrogir petai modd i bawb gwblhau’r ffurflen yn brydlon er mwyn lleihau costau.
Ceir sawl ffordd o gadrnahu neu newid y manylkion ar y Ffurflen ymholiad blynyddol.
* Byddwch angen y cod diogelwch (2 ran) sydd naill ai i’w gael ar waelod tudalen 1 neu ar ben dudalen 2.*
-
Cam 1 – Ewch i www.elecreg.co.uk/ynysmon
• Cam 2 – Teipiwch eich cod diogelwch unigryw (2 ran) a’ch cod post
• Cam 3 - Darllenwch y wybodaeth ar y sgrîn a dilynwch y cyfarwyddiadau
• Cam 4 - Parhewch drwy’r broses hyd nes ei fod yn gofyn i chi gadarnhau a gorffen
- Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses hon, bydd y Swyddog Cofretru Etholiadol yn derbyn y wybodaeth hon. Os oes angen gweithredu pellach bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ysgrifennu at yr unigolyn.
Ond yn cael ei ddefnyddio i gadarnhau bod y manylion yn gywir.
* Byddwch angen y cod diogelwch (2 ran) sydd naill ai i’w gael ar waelod tudalen 1 neu ar ben dudalen 2.*
• Cam 1 - Ffoniwch 08082 841443
• Cam 2 – Teipiwch eich côd diogelwch unigryw
• Cam 3 - Dilynwch y cyfarwyddiadau dros y ffôn
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses hon, bydd y swyddfa Cofrestru Etholiadol yn derbyn y wybodaeth hon. Os oes angen gweithredu pellach bydd y swyddfa Cofrestru Etholiadol yn ysgrifennu at yr unigolyn.
Dim ond i gadarnhau bod manylion yn gywir yn unig
* Byddwch angen y cod diogelwch (2 ran) sydd naill ai ar waelod tudalen 1 neu ar ben dudalen 2.*
• Cam 1 – Anfonwch neges destun 07786 209343 ac yna eich 2 gôd diogelwch gyda gofod rhyngddyn nhw.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses hon, bydd y swyddfa Cofrestru Etholiadol yn derbyn y wybodaeth hon. Os oes angen gweithredu pellach bydd y swyddfa Cofrestru Etholiadol yn ysgrifennu at yr unigolyn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses hon, bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn derbyn y wybodaeth hon. Os oes angen gweithredu pellach bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ysgrifennu atoch.
Unwaith y byddwn wedi prosesu’r wybodaeth byddwn yn ei wirio yn erbyn y gofrestr etholiadol. Os oes unrhyw ychwanegiadau, dileadau neu newidiadau yna bydd hynny’n cael ei ddiweddaru ar y gofrestr etholiadol.
Os ydych chi wedi ychwanegu rhywun at yr eiddo, byddwn yn anfon ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru yn y post sy’n gofyn iddynt ddarparu rhagor o wybodaeth, megis dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol. Rydym yn gofyn iddynt wneud hynny fel y gallwn gadarnhau eu hunaniaeth.
Os byddwch yn dweud wrthym fod rhywun wedi symud o’r cyfeiriad, byddwn yn anfon llythyr pellach at bob unigolyn er mwyn i ni gael cadarnhad eu bod wedi symud. Y rheswm dros hyn yw bod angen dau ddarn o dystiolaeth i dynnu rhywun o’r gofrestr etholiadol.
Os nad ydych yn ymateb i’r Ffurflen Ymholiad Blynyddol, efallai bydd canfasiwr (swyddog o’r cyngor) yn galw heibio’ch eiddo i gadarnhau’r wybodaeth gyda chi yn bersonol neu efallai y cewch alwad ffôn o'n swyddfa.