Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis. Cyn parhau i ddefnyddio ein gwefan rhaid i chi ddewis y mathau o gwcis yr ydych am eu caniatáu.
Mae'r cwcis yma yn angenrheidiol ar gyfer swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalennau, cyflwyno cynnwys ac ein gwasanaeth help byw. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn ac ni ellir ei anablu.
Mae cwcis dewis yn galluogi gwefan i gofio eich gosodiad rhagarweiniad iaith neu rheolaethau opsiynol.
Defnyddir cwcis ystadegol i ddeall sut mae ymwelwyr yn rhyngweithio â'r wefan trwy gasglu ac adrodd ar wybodaeth yn ddienw.
Browser does not support script.
Mae’r Gymraeg yn iaith fyw ar Ynys Môn. Gyda dros hanner poblogaeth yr ynys yn siarad Cymraeg, mae’r iaith yn fyw yn y cartref, yn y gweithle, ac yn ein cymunedau. Mae’r Gymraeg wedi cael ei defnyddio yma ers dros ddwy fil o flynyddoedd ac yn dal i gael ei defnyddio bob dydd gan bobl o bob oed. Mae hyn yn gwneud Ynys Môn yn un o gadarnleoedd y Gymraeg.
Yn ogystal â’n dyletswydd i gynnig gwasanaeth Cymraeg, rydym yn benderfynol o sicrhau bod yr iaith yn ffynnu yma. Mae’n bwysig felly bod digon o gyfleoedd i blant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol, yn y gwaith, mewn busnesau ac mewn gweithgareddau hamdden. Rydym hefyd am sicrhau bod trigolion newydd yn ymwybodol o ddiwylliant arbennig yr ynys a bod cyfleoedd ar gael iddynt ddysgu Cymraeg.
Trwy gyd-weithio i greu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith ar Ynys Môn ein nod yw cyfrannu at weledigaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Os ydych chi’n newydd i Ynys Môn, neu’n meddwl dod yma, hoffwn eich croesawu i un o gymunedau dwyieithog mwyaf bywiog Cymru.
Os nad ydych wedi siarad Cymraeg ers amser neu am ddysgu’r iaith o’r newydd, mae nifer o wahanol ffyrdd o roi cynnig arni. Mae digon o ddewis o gyrsiau i’ch siwtio chi ar gael yn lleol ac ar lein.
Mae cyfle i bob plentyn ar Ynys Môn i fod yn gwbl ddwyieithog. Dysgwch fwy am ein polisi addysg, yr addysg cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yma a sut y gallwch gefnogi’ch plentyn ar ei daith i ddwyieithrwydd.
Mae cynnwys y Gymraeg fel rhan o’ch busnes yn gallu dod a mwy o gwsmeriaid drwy’r drws, yn adlewyrchu gwasanaeth lleol sy’n parchu’r gymuned, ac yn ffordd o ennyn ffyddlondeb cwsmeriaid.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod ystod o safonau arnom y mae’n rhaid i ni eu cwrdd er mwyn darparu gwasanaeth Cymraeg o safon i’r cyhoedd.
Dyma’r ddogfen sy’n gosod allan ein gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg ar Ynys Môn.
Mae defnyddio enwau Cymraeg a chadw enwau hanesyddol yn rhan bwysig o warchod hunaniaeth ieithyddol arbennig ein hynys.
Mae’r proffil iaith yn rhoi darlun cynhwysfawr i ni o sefyllfa’r Gymraeg ar Ynys Môn yn cynnwys faint o bobl sy’n siarad yr iaith a faint o ddefnydd sy’n cael ei wneud o’r iaith ar yr ynys.
Mae Menter Iaith Môn yn hybu’r Gymraeg yn ein cymunedau trwy drefnu gweithgareddau i deuluoedd, plant, pobl ifanc ac oedolion o bob oed.
Dysgwch fwy am weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Nod y fforwm yw hybu cydweithio rhwng sefydliadau er lles y Gymraeg ar Ynys Môn.