Cyngor Sir Ynys Môn

Y Gymraeg yn myd busnes


Mae gwasanaeth Cymraeg o safon yn helpu cwmnïoedd greu argraff dda.

Mae’r cyngor yn gweithio gyda busnesau lleol, yn enwedig mewn meysydd fel twristiaeth a hamdden, er mwyn cynnig arweiniad ar roi llwyfan amlwg i’r Gymraeg yn eu gweithgareddau. I fusnesau newydd neu fusnesau sy’n bodoli’n barod, ym mha bynnag faes, mae cymorth ar gael.

Cefnogaeth i gynyddu’r Gymraeg yn eich busnes neu elusen

Mae’r sefydliadau isod yn cynnig cefnogaeth o ran adnoddau neu gyfieithu. Porwch drwyddynt i fanteisio ar eu harbenigedd.

  • Helo Blod - Gwasanaeth cyfieithu am ddim.
  • Menter Môn - Menter di elw sydd yn gwireddu cynlluniau led led Cymru gyda phwyslais ar Ynys Môn a Gwynedd.
  • Bwrlwm Arfor - Menter sy'n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu'r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.
  • Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru - Corff cenedlaethol sy'n arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol.
  • Comisiynydd yr Iaith Gymraeg - Hybu a hwyluso y defnydd o’r Gymraeg fel gall Cymru fod yn wlad lle gall pobl fyw eu bywydau yn Gymraeg.
  • DysguCymraeg – Cyrsiau dysgu Cymraeg

Gwefannau ddefnyddiol

Os ydych chi’n rhedeg busnes neu am gychwyn busnes o’r newydd, mae nifer o lefydd y gallwch droi atynt am gymorth.