Yr wythnos hon rydym yn dathlu’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg trwy dynnu sylw at yr holl wasanaethau cyfrwng Cymraeg rydym ni’n eu cynnig.
Mae hyn oherwydd bod Dydd Mercher, 7 Rhagfyr yn ddiwrnod hawliau’r Gymraeg.
Dyma’r dyddiad cafodd Mesur y Gymraeg ei basio gan y Senedd. Rhoddodd y mesur statws swyddogol i’r iaith a sefydlodd hawliau i bobl ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio gyda sefydliadau cyhoeddus, fel Cyngor Sir Ynys Môn.
Gyda ni mae gennych hawl i:
- gael llythyrau ac e-byst yn Gymraeg
- sgwrsio’n Gymraeg hefo ni ar y ffôn neu wyneb yn wyneb
- darllen y Gymraeg ar arwyddion, mewn dogfennau ac ar ein gwefannau
- trio am swydd yn y Gymraeg
- defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith
Eleni, rydym yn dathlu’r diwrnod drwy dynnu sylw at y swigen oren ‘iaith gwaith’ sy’n dangos bod gwasanaeth Cymraeg ar gael. Mae i’w weld yn ein derbynfeydd, ar e-byst, ac rydym yn annog ein holl swyddogion sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg i’w wisgo.
Lle bynnag y gwelwch chi’r swigen oren, defnyddiwch ei hawl i ddefnyddio’r Gymraeg hefo ni.
I wybod mwy am ein gwasanaethau cyfrwng Cymraeg e-bostiwch cymraeg@ynysmon.llyw.cymru