Nodi anghenion y gymuned
Mae’r Rhaglen Llunio Lle yn cael ei chyflawni gan Medrwn Môn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn. Mae’n gweithio gyda chymunedau lleol i greu mapiau asedau cynhwysfawr a sefydlu cynghreiriau cymunedol er mwyn gweithio gyda chyrff statudol i flaenoriaethu ble y dylid targedu gwariant er mwyn diwallu anghenion cymunedau.
Mae cynghreiriau’n cael eu sefydlu ar gyfer wardiau etholiadol yr ynys a’r nod ydi sefydlu cynghrair ym mhob un o’r 11 ward dros y 18 mis nesaf. Fel rhan o’r Rhaglen Llunio Lle llwyddwyd i sefydlu Cynghrair Seiriol yn 2014, Cynghrair Twrcelyn yn 2019 a Chynghreiriau Llifon a Lligwy yn 2021.
Mae’r cynghreiriau’n dod â grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr, cynghorwyr tref a chymuned, busnesau lleol ac unrhyw rai â diddordeb ynghyd er mwyn gwneud yr ardaloedd y maent yn byw a gweithio ynddynt yn llefydd mwy annibynnol a gwydn.
Defnyddir dull seiliedig ar asedau i fapio ardaloedd y Cynghreiriau a rhennir y dystiolaeth â’r gymuned ehangach fel y gellir nodi’r themâu y dylid eu blaenoriaethu. Cefnogir y gwaith gan Gyngor Sir Ynys Môn ac mae cyllid ar gael i gymunedau er mwyn sefydlu prosiectau gorchwyl a gorffen.
Cynghreiriau Seiriol a Thwrcelyn
Gyda chyllid sbarduno gan y Gymdeithas Elusennol, mae cynghreiriau Seiriol a Thwrcelyn wedi llwyddo i sefydlu eu cynlluniau tro da eu hunain mewn ymateb i ddiffyg trafnidiaeth gymunedol fel y nodwyd yn eu tystiolaeth mapio.
Mae Seiriol a Thwrcelyn hefyd wedi sefydlu hybiau cymunedol yn eu hardaloedd, gan ddefnyddio tanwariant o’r Gronfa Gofal Integredig. Ers hynny mae Cynghrair Seiriol wedi sefydlu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Sir Ynys Môn i helpu i gynorthwyo cydweithrediad pellach, cynaliadwy.
Bydd y ddogfen yn darparu canllaw i Gynghrair Pobl Seiriol wrth i’r gynghrair ddod o hyd i ffyrdd y gall y gymuned gymryd mwy o gyfrifoldeb a chomisiynu ei gwasanaethau ei hun. Mae’r gwaith yn torri tir newydd ar yr ynys ac yn amlygu’r math o arweiniad y gall cymunedau ei roi drwy strwythur y cynghreiriau.
Rydym yn gobeithio y bydd cynghreiriau cymunedol eraill yn dilyn y math yma o fodel a chyflogi eu staff eu hunain yn y dyfodol.
Dulliau ymgysylltu
Mae’r Rhaglen Llunio Lle yn defnyddio pob math o ddulliau ymgysylltu i wneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosib yn cael cyfle i gymryd rhan, yn y gwaith mapio ac yn y cynghreiriau.
Rydym wedi mabwysiadu’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu ac rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i’w hyrwyddo. Rydym yn cynnig cyfleoedd i bobl gymryd rhan pan a ble y maent fwyaf cyfforddus. Mae’r dulliau cyfathrebu’n amrywio o un gymuned i’r llall ac yn fwy diweddar, oherwydd y cyfyngiadau COVID, rydym wedi dechrau defnyddio’r Arf Archwilio Cerddedadwyedd fel rhan o’r teithiau cerdded yr ydym ni’n eu trefnu ar gyfer ein cymunedau.
Mae’r swyddog llunio lle yn trefnu teithiau cerdded yn lleol, ac yn eu hysbysebu gyda grwpiau lleol, ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy rwydweithiau ehangach er mwyn gwahodd pobl i ymuno a thrafod eu hardal leol. Mae’r cydlynwyr asedau lleol (swyddogion presgripsiynu cymdeithasol) yn ymuno gyda’r bobl y maent yn eu cefnogi ac mae’r arf cerddedadwyedd yn cael ei ddefnyddio i lywio a chofnodi’r sgyrsiau.
Bydd yr arian yn cyfrannu tuag at y gost o gynnal cyfarfodydd cyhoeddus a sefydlu cynghreiriau cymunedol. Bydd cyllid ar gael i fwrw ymlaen â’r blaenoriaethau cychwynnol sy’n cael eu nodi gan y cynghreiriau. Bydd y sesiynau cerddedadwyedd yn parhau yn y Flwyddyn Newydd a bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i gwblhau asesiad gwaelodlin a chynllun gweithredu cymunedau oed gyfeillgar.