Cyngor Sir Ynys Môn

Datganiad o'r cyfrifon


Mae’r datganiad cyfrifon hwn yn egluro cyllid Cyngor Sir Ynys Môn yn ystod blwyddyn ariannol a’r sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn honno.

Mae gwybodaeth bellach ar gyfrifon a chyllidebau’r cyngor ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Cyllid. Mae croeso i chwi anfon unrhyw sylwadau neu ymholiadau i sylw’r Gwasanaeth Cyllid.

O dan Reoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’u diwygiwyd), mae’n ofynnol i swyddog ariannol cyfrifol Cyngor Sir Ynys Môn lofnodi a dyddio datganiad cyfrifon drafft Cyngor Sir Ynys Môn.

Mae hyn i ardystio bod y cyfrifon yn cyflwyno darlun gwir a theg o’r sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac o incwm a gwariant y cyngor ar gyfer y flwyddyn honno. Yn unol â’r rheoliadau, rhaid cwblhau hyn erbyn 31 Mai bob blwyddyn. Serch hynny, mae’r rheoliadau’n gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodau lleol sy’n wynebu oedi wrth baratoi a chyhoeddi eu cyfrifon ariannol blynyddol trwy gyhoeddi hysbysiad ar wefan y cyngor perthnasol yn nodi’r rhesymau am yr oedi.

Pwrpas yr hysbysiad hwn yw hysbysu dinasyddion Ynys Môn a rhanddeiliaid y bydd oedi wrth gyhoeddi datganiad o gyfrifon y cyngor ar gyfer 2023 i 2024 tu hwnt i 31 Mai 2024. Mae hyn oherwydd effaith barhaus oedi gyda chyfrifon blynyddoedd blaenorol o ganlyniad i’r pandemig yn ogystal â materion cyfrifo technegol sy’n effeithio cyfrifon pob awdurdod lleol.

Mae’r wybodaeth yn y dydalen hon yn dangos disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran yr amserlenni diwygiedig ar gyfer paratoi a chyhoeddi datganiad o gyfrifon awdurdodau lleol ar gyfer 2023 i 2024. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod, “yn dilyn y pandemig ac asedau isadeiledd (megis ffyrdd, llwybrau troed, goleuadau stryd a chelfi stryd), materion archwilio a godwyd y llynedd”, fod effaith barhaus ar adnoddau staff awdurdodau lleol ac efallai y bydd gwaith ychwanegol i’w wneud er mwyn llunio’r cyfrifon terfynol eleni.

Yr amserlen a awgrymir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyhoeddi

Datganiad o’r cyfrifon drafft

  • Amserlen statudol 31 Mai 2024
  • Amserlen estynedig 30 Mehefin 2024

Datganiad o’r cyfrifon archwiliedig

  • Amserlen statudol 31 Gorffennaf 2024
  • Amserlen estynedig 30 Tachwedd 2024

Mae’n ofynnol o dan Reoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’u diwygiwyd) bod swyddog ariannol cyfrifol Cyngor Sir Ynys Môn yn llofnodi a dyddio’r datganiad o gyfrifon archwiliedig terfynol y cyngor ac ardystio bod y cyfrifon yn cyflwyno darlun cywir a theg o’r sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi, ac o incwm a gwariant y cyngor ar gyfer y flwyddyn honno. Yn unol â’r Rheoliadau, rhaid cwblhau hyn erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn.

Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y terfynau amser hyn ar gyfer 2023 i 2024: 

Datganiad o’r cyfrifon drafft

  • Amserlen statudol 31 Mai 2024
  • Amserlen estynedig 30 Mehefin 2024

Datganiad o’r cyfrifon archwiliedig

  • Amserlen statudol 31 Gorffennaf 2024
  • Amserlen estynedig 30 Tachwedd 2024

Llofnodwyd ac ardystiwyd y cyfrifon drafft ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 gan y swyddog ariannol cyfrifol ar 28 Mehefin 2024.

Effaith yr oedi wrth gwblhau’r archwiliad o’r datganiad o’r cyfrifon 2022 i 2023 a 2021 i 2022 sydd i gyfrif am hyn, o ganlyniad i faterion cyfrifyddu technegol a effeithiodd ar bob cyngor yn y DU.

Bydd y cyngor ac Archwilio Cymru felly’n gweithio’n unol ag amserlenni estynedig Llywodraeth Cymru a nodir uchod.

Marc Jones FCPFA
Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

16 Awst 2024

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.