Hysbysebir cyfleon tendro trwy GwerthwchiGymru. Pan fydd busnes yn cofrestru ar GwerthwchiGymru bydd yn ticio i ddangos pa bethau y gall y cwmni dendro amdanynt, felly os yw tendr perthnasol yn cael ei hysbysebu anfonir e-bost yn awtomatig atynt.
Mae yna amryw o ffyrdd i hysbysebu tendrau ar y farchnad, a'r rhai mwyaf cyffredin yw’r drefn ‘agored’ a'r drefn ‘gyfyngedig’. Bydd cwmnïau un ai’n cael gwahoddiad i dendro’n uniongyrchol gan ddilyn y drefn ‘agored’ neu gwblhau holiadur cyn-gymhwyso cyn y cyhoeddir gwahoddiad i dendro trwy’r drefn ‘gyfyngedig’.
Diben holiadur cyn-gymhwyso yw asesu pa mor addas yw’r darpar gynigydd i gyflenwi a’i allu i gwrdd â’r contract cyn y cyhoeddir tendrau. Mae hyn yn arbed cynigwyr rhag treulio amser yn ddiangen ar gwblhau dogfennau tendro llawn.
Bydd y dogfennau tendro’n cynnwys yr isod:
- Gwahoddiad i Dendro
- Holiadur Cymhwyster
- Holiadur Technegol
- Holiadur Masnachol
- Ffurflen Tendr
- Manyleb
- Tystysgrif Gwrth-gydgynllwynio
- Contract Drafft
- Rhestr graddfeydd ac/neu fil meintiau (os yn berrhnasol)
- Lluniadau (os yn berthnasol)
- Amodau contract neu amodau pryniant
- Gofynion Datganiad Dull (os yn berthnasol)
- Unrhyw wybodaeth gefnogol berthnasol
Gofynnir i chi gwblhau a dychwelyd eich dogfennau tendr erbyn amser a dyddiad cau penodol trwy GwerthwchiGymru.
Agorir yr holl dendrau trwy ‘flwch post’ GwerthwchiGymru gan ddau swyddog gwahanol ar ddyddiad penodol. Unwaith y bydd y dogfennau wedi’u hagor, maent yn cael eu hanfon ymlaen at y swyddog perthnasol yn y Cyngor i’w harfarnu.
Ni fydd tendrau hwyr yn cael eu harfarnu.
Arfarnu tendrau a dyfarnu contractau
Dogfennau tender a gyflwynwyd. Bydd yr arfarniad yn canolbwyntio ar sut bydd y cynigion yn gallu cyflawni’r contract ar sail pris ac ansawdd. Bydd y cydbwysedd rhwng pris ac ansawdd yn dibynnu ar y maes gwasanaeth penodol.
Bydd y Cyngor yn dyfarnu’r contract ar sail y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd. Rhoddir gwybod i’r cyflenwr llwyddiannus yn ysgrifenedig.
Atborth
Os nad ydych yn llwyddo i ennill y contract rhoddir gwybod i chi’n ysgrifenedig. Gan gadw at gyfyngiadau cyfrinachedd masnachol, bydd y Cyngor bob amser yn ymdrechu i gynnig atborth i dendrwyr aflwyddiannus er mwyn egluro pam nad ydynt wedi llwyddo yn eu cynnig.
Gall y wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol wrth baratoi cynigion yn y dyfodol. Nid yw bod yn aflwyddiannus gydag un cynnig yn golygu y bydd cwmni yn aflwyddiannus yn y dyfodol. Cofiwch fod rhaid i’r Cyngor gydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Perfformiad contractau
Mae trefniadau ar waith ar gyfer monitro perfformiad cwmnïau sy’n gwneud gwaith dan gontractau i’r Cyngor. Mae cwmnïau’n cael eu monitro’n agos er mwyn asesu a ydynt yn cydymffurfio â’r Dangosyddion Perfformio Allweddol a bennir o flaen llaw.
Mae’n rhaid i’ch cwmni fedru cyflawni gofynion y contract a chwrdd â’r Dangosyddion Perfformio Allweddol. Dylech fod yn ymwybodol y bydd Amodau Contractau’n cael eu gweithredu’n llym yn enwedig mewn perthynas ag ansawdd a pherfformiad cyffredinol.
Mae’r Cyngor yn gwneud ymdrech barhaus i wella ei berfformiad ei hun ac mae’n disgwyl i’w gontractwyr wneud yr un modd. Bydd y Cyngor yn edrych yn ddifrifol ar sefyllfa unrhyw gontractwr sy’n methu cyrraedd y safonau perffrmio gofynnol. Gweithredir amodau'r contract ac mae amodau penodol yn y contract hefyd sy'n ymwneud â pherfformiad gwael.
Gofynnir i gyflenwyr wneud sylwadau ar unrhyw broblemau berfformiad. Dylech fod yn ymwybodol y gallai enghreifftiau difrifol o berfformiad gwael olygu na fydd eich cwmni’n cael ei ystyried am gontractau yn y dyfodol. Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am unrhyw effaith y gallai hyn ei gael ar fusnes unrhyw gwmni.
Mae perfformiad is-safonol yn cynnwys ond nid wedi’i gyfyngu i:
- gwaith o ansawdd annerbyniol
- diffyg goruchwylio safle
- methiant i gyflawni mewn pryd
- rheolaeth annigonol o isgontractwyr
- arferion iechyd a diogelwch gwael
Amrywiadau
Mae’n bosib y bydd angen amrywiadau o bryd i’w gilydd yn ystod cyfnod cytundeb. Fel arfer bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn gofyn am amrywiadau yn ysgrifenedig, ac eithrio mewn argyfwng, pan ellir rhoi cyfarwyddiadau ar lafar, gan ddilyn hynny gyda llythyr.