Mae’r Rhaglen Ynys Ynni, a sefydlwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn, yn ymdrech ar y cyd rhwng nifer o randdeiliaid o fewn y sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector sy’n gweithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi Ynys Môn ar y blaen o ran ymchwil a datblygiad ynni carbon isel, cynhyrchiant a gwasanaethu a sicrhau buddion economaidd anferthol posibl.
Gweledigaeth Ynys Ynni yw gwireddu cyfle unwaith mewn oes ar gyfer creu swyddi, yn sicrhau ffyniant a tŵf economaidd drwy fanteisio ar nifer o brosiectau trawsnewidiol ar Ynys Môn.
Mae’r Rhaglen Ynys Ynni yn cydweithio gyda nifer o randdeiliaid allweddol er mwyn:
- Denu buddsoddiadau strategol sylweddol a lliniaru’r risgiau
- Dylanwadu ar ddatblygwyr posibl
- Cefnogi datblygiad pobl a chymunedau cystadleuol
- Cefnogi datblygiad busnesau cystadleuol
- Cefnogi datblygiad isadeiledd cystadleuol
- Cydnabod y manteision y gall prosiectau sylweddol eu cynnig a lliniaru effeithiau croes
- Sicrhau’r manteision mwyaf posibl o ran buddion etifeddiaeth hirdymor