Cyngor Sir Ynys Môn

Trethu eiddo di-ddeiliad


Gall perchnogion eiddo annomestig sydd heb ddeiliad fod yn agored i dalu trethi eiddo gwag, a godir yn ôl 100%o’r rhwymedigaeth arferol.

Mae’r rhwymedigaeth yn dechrau pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 3 mis, neu, yn achos warysau a ffatrioedd, pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 6 mis. Mae mannau penodol o eiddo wedi’u heithro rhag ardrethi eiddo gwag.

Er mwyn sicrhau eich treth annomestig cywir, cysylltwch â'r gwasanaeth cyllid.