Pan fydd yn trafod cais, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw ohebiaeth a dderbyniwyd gan neu ar ran:
- yr ymgeisydd
- prif swyddog yr heddlu yn yr ardal dan sylw
- yr awdurdod perthnasol - sef unai'r awdurdod gorfodaeth neu’r awdurdod perthnasol dros yr ardal lle bydd y sŵ wedi ei lleoli
- corff llywodraethol unrhyw sefydliad cenedlaethol sydd yn ymwneud â gweithredu sŵau
- lle bydd rhan o’r sŵ wedi ei lleoli mewn ardal lle nad oes gan yr awdurdod lleol y grym i ganiatáu'r drwydded, dylid gwneud cais i’r awdurdod cynllunio dros yr ardal berthnasol (ond nid i awdurdod cynllunio sirol) neu, os bydd y rhan dan sylw wedi ei lleoli yng Nghymru, yr awdurdod cynllunio lleol dros yr ardal lle mae wedi ei lleoli
- unrhyw unigolyn fydd yn haeru y byddai’r sŵ yn effeithio ar iechyd a diogelwch y bobl sydd yn byw yn yr ardal
- unrhyw un fydd yn nodi y byddai’r sŵ yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch unrhyw un fyddai’n byw gerllaw iddi
- unrhyw unigolyn arall y byddai ei ohebiaeth yn arwain at benderfyniad gan yr awdurdod i ddefnyddio grym neu ddyletswydd i wrthod neu ganiatáu trwydded.
Cyn caniatáu neu wrthod rhoi’r drwydded, bydd yn ofynnol i’r awdurdod lleol drafod unrhyw adroddiadau gan arolygwyr wedi iddynt archwilio’r sŵ, ymgynghori gyda’r ymgeisydd ynghylch unrhyw amodau y bwriadant eu cynnwys gyda’r drwydded a gwneud trefniadau ar gyfer cynnal archwiliad. Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd cyn yr archwiliad.
Ni fydd yr awdurdod lleol yn caniatáu’r drwydded os byddant yn teimlo y byddai’r sŵ yn effeithio’n andwyol ar iechyd neu ddiogelwch y bobl sy’n byw gerllaw, neu yn effeithio’n ddifrifol ar gynnal cyfraith a threfn neu os nad ydynt yn fodlon y byddai mesurau cadwraeth priodol yn cael eu gweithredu’n ddigonol.
Hefyd, mae’n bosibl y caiff trwydded ei gwrthod:
- os nad yw'r awdurdod lleol yn fodlon bod safonau'r llety, staffio neu reolaeth yn addas i gynnal safon briodol o ofal a lles ar gyfer yr anifeiliaid neu ar gyfer gweithredu'r sŵ yn briodol
- os yw'r ymgeisydd neu - os yw’r ymgeisydd yn gwmni ymgorfforedig - y cwmni neu unrhyw rai o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion cyffelyb y cwmni, neu geidwad o fewn y sŵ, wedi ei ddyfarnu'n euog o unrhyw drosedd yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid
Ni chaiff ceisiadau am adnewyddu trwyddedau eu hystyried ddim hwyrach na 6 mis cyn i'r drwydded bresennol ddod i ben, oni bai fod yr awdurdod lleol yn caniatáu cyfnod byrrach o amser.
Gall yr Ysgrifennydd Gwladol, wedi ymgynghori gyda'r awdurdod lleol, eu cyfarwyddo i osod un amod neu ragor ar drwydded.
Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol y dylid penderfynu nad oes angen trwydded oherwydd nifer fach yr anifeiliaid a gedwir yn y sŵ neu oherwydd nifer fach y mathau o anifeiliaid a gedwir ynddi.