Cyngor Sir Ynys Môn

Sŵit A (Llawr Gwaelod) Canolfan Fusnes Môn, Llangefni LL77 7XA


Swit_Suite_A copy

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 20 Medi 2024

Rhent (y flwyddyn): £15,000 (+TAW)

Nodweddion

  • Swyddfa modern yng Nghanolfan Fusnes Môn
  • Arwynebedd llawr oddeutu 157 m2 (1,689 troedfedd sgwâr)
  • Wedi’i lleoli yng nghanol parc busnes sefydledig Bryn Cefni
  •  O fewn un o Ardaloedd Menter Llywodraeth Cymru
  • Yn agos i Gyffordd 6 gwibffordd yr A55

Disgrifiad

Uned swyddfa wedi'i lleoli ar Barc Busnes Bryn Cefni, Llangefni, yn agos i Gyffordd 6 gwibfordd yr A55. Mae'r uned yn darparu lle ar gyfer swyddfa wedi’i charpedu gyda nenfwd crog ac mae’r arwynebedd llawr net oddeutu 157 m² (1,689 t sg). Ceir mynediad i'r uned trwy brif dderbynfa’r Ganolfan ac mae cyfleusterau parcio a gegin a rennir hefyd ar gael yn ychwanegol i ystafell cawod. Mae’r Ganolfan ehangach gyda ddewis o ystafelloedd cyfarfod i’w hurio ar gyfer rhwng 2 a 65 o bobl. Rydym yn cynnig prydles atgyweirio ac yswirio fewnol. Telir TAW ar yr eiddo.

Mae'r Gwerth Trethiannol o restr ardrethu  Ebrill 2023 yn 12,750.

Mae Parc Busnes Bryn Cefni yn un o Ardaloedd Menter Llywodraeth Cymru ac mae'n gartref i Peugeot, Jewsons, Lidl, Howdens, a Llechwedd Meats ymhlith eraill. Mae Canolfan Fusnes Môn wedi cael ei hadnewyddu yn ddiweddar fel rhan o gynllun datblygu  £2.3m ehangach o eiddo yn ardal Bryn Cefni sydd ym mherchenogaeth y Cyngor Sir.

Gwasanaethau

Defnydd o gegin gymunedol a thoiledau. Darperir prif gyflenwad trydan, prif gyflenwad dŵr, gwres ac aerdymheru, bydd disgwyl i'r tenant dalu cyfran deg am wasanaethau. Awgrymir bod partïon sydd â diddordeb yn sicrhau bod y darpariaethau yn addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig.

EPC

Mae sgôr gweithredol yr adeilad wedi’i gofrestru fel E.

Telerau’r Brydles

Cytundeb prydles 3 blynedd gyda rhent yn daladwy bob mis ymlaen llaw. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am baratoi’r brydles, a fydd yn costio oddeutu £409. Mae’r Cyngor gyda pholisi o sicrhau blaendaliadau ar gyfer rhent masnachol sy’n cyfateb i 6 mis o rent. Bydd hwn yn daliad hollol ar wahân i’r rhandaliad rhent cyntaf. Bydd y gost gwasanaeth yn cael ei gyfrif yn gymesur â'r defnydd.

Cyflwyno Cais

Mae'r eiddo ar gael i'w osod, yn amodol ar gais llwyddiannus, a bydd angen darparu geirdaon a chynllun busnes.

Gweld yr Eiddo a Datganiadau o Ddiddordeb                                                                                        

Ymweliadau drwy apwyntiad yn unig. Dylai partïon sydd am fynegi diddordeb yn yr eiddo hwn wneud hynny drwy gysylltu ag Adain Eiddo’r Cyngor dros y ffôn ar 01248 752241 / 752245 neu drwy anfon ebost i YmholiadauEiddo@ynysmon.gov.uk.

 Nodyn Pwysig

  1. Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
  2. Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y Cyngor.
  3. Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
  4. Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
  5. Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.