Cefndir
Mewn ymateb i bryderon am ‘fasnachwyr twyllodrus’ sy’n aml yn cael eu hamlygu yn y cyfryngau, cymerodd partneriaeth o wasanaethau safonau masnach y cam arloesol o lunio’r Cynllun Prynwch Efo Hyder nôl y 1999.
Mae’r cynllun yn darparu rhestr o fusnesau lleol i ddefnyddwyr sydd wedi rhoi eu hymrwymiad i fasnachu’n deg. Mae pob busnes a restrir wedi cael cyfres o archwiliadau manwl cyn cael eu cymeradwyo fel aelod o’r cynllun.
Prynwch Efo Hyder yw’r cynllun mwyaf o’i fath yn genedlaethol ac mae’n parhau i ehangu ei gwmpas daearyddol.
Rydym o’r farn bod gan Safonau Masnach yr arbenigedd a’r cymhelliant cywir i gynnig cynllun sy’n cynnig buddion gwirioneddol i ddefnyddwyr a busnesau.
Yn unol â hynny, mae’r cynllun Prynwch Efo Hyder yn cael ei weinyddu gan wasanaethau safonau masnach yn uniongyrchol, ac nid yw’n gontract allanol.
Darganfod aelod o'r cynllun
Ewch i wefan Prynwch Efo Hyder i ddod o hyd i aelodau'r cynllun.
Rhestrir y busnesau agosaf yn gyntaf.
Mae’r holl fusnesau a restrir ar y wefan hon wedi cael eu fetio a’u cymeradwyo gan Safonau Masnach i sicrhau eu bod yn gweithredu mewn ffordd gyfreithiol, onest a theg.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun Prynwch Efo Hyder Gogledd Cymru ffoniwch 01248 750 840
Cyfryngau cymdeithasol
Dilynwch y cynllun ar Facebook a Twitter