Cafodd y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) ei ddirymu ar 4 Gorffennaf 2023, ac nid yw bellach ar waith.
Parthau rheoli ffliw adar
Achosion cyfredol o ffliw adar a’r mesurau rheoli
Dilynwch y dolenni am gyngor ar y cyfyngiadau sy’n effeithio pob achos o ffliw adar.
Defnyddiwch fap rhyngweithiol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i ganfod os yw eich safle chi o fewn un o’r parthau hyn.
Mae’r risg i iechyd y cyhoedd o’r feirws yn isel iawn. Mae cig wedi ei goginio’n iawn a chynnyrch fel wyau yn saff i’w bwyta.
Sut i adrodd am achosion
Peidiwch a chyffwrdd na chodi unrhyw adar sâl neu farw ond rhowch wybod i Defra.
Diweddariadau
Adnabod y risg ddiweddaraf i'ch dofednod a'ch adar anwes a'r camau y mae'n ofynnol i chi eu cymryd.
Diweddariad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Arwyddion clinigol
Efallai y bydd yr arwyddion clinigol a ganlyn yn bresennol:
- pen wedi chwyddo
- afliwiad glas ar y gwddf
- colli’r awydd i fwyta
- trafferthion anadlu megis: pig ar agor, peswch/tisian, gyrglo
- dolur rhydd
- dodwy llai o wyau
- mwy o farwolaethau
Cofrestru dofednod ac adar hela
Dylech gofrestru eich dofednod, hyd yn oes os ydynt yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes, fel y gall yr Asiantaeth Anifeiliaid a Phlanhigion gysylltu â chi yn ystod achos o ffliw adar. Mae hyn yn ofyn cyfreithiol os oes gennych 50 neu fwy o adar.
Mae dofednod yn cynnwys ieir, hwyaid, tyrcïod, gwyddau, colomennod, soflieir, ieir gini a ffesantod.
Dofednod (gan gynnwys adar hela): rheolau a ffurflenni cofrestru
Cyngor bioddiogelwch
Anogir pob ceidwad adar i gynnal lefelau bioddiogelwch uchel; pa un ai ydych yn cadw ychydig o adar anwes, neu os oes gennych haid fasnachol fawr.
I sicrhau lefelau bioddiogelwch uchel, dylai pob ceidwaid dofednod:
- leihau symudiadau gan bobl i mewn ac allan o ardaloedd lle mae adar yn cael eu cadw
- glanhau a diheintio esgidiau gan ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd gan y llywodraeth a chadw’r ardaloedd lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus
- sicrhau nad yw’r ardaloedd lle mae adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, trwy roi rhwydi dros byllau ac atal mynediad i storfeydd bwyd
- peidio cadw eich adar mewn ardaloedd lle mae yna wyddau, hwyaid a gwylanod, a pheidiwch â gadael iddynt gael mynediad i’r ardaloedd hynny
- rhoi bwyd a dŵr i’ch adar mewn ardaloedd sydd wedi eu hamgáu er mwyn rhwystro adar gwyllt
- glanhau a diheintio cerbydau ac offer sydd wedi dod i gysylltiad â dofednod a lleihau unrhyw halogiad sydd eisoes yn bodoli trwy lanhau a diheintio ardaloedd concrid
- cadw llygaid gofalus ar adar am unrhyw arwyddion o glefyd a rhoi gwybod i’ch milfeddyg neu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am unrhyw adar sy’n sâl neu farwolaethau na ellir eu hesbonio