Mae'n ofyniad cyfreithiol cofrestru unrhyw eiddo a ddefnyddir i weithredu busnes bwyd. Mae hyn yn cynnwys elusennau, stondinau marchnad, cerbydau danfon a busnesau bwyd symudol eraill.
Bydd angen i chi hefyd ystyried a oes angen cymeradwyo eich adeilad busnes er enghraifft os ydych yn gwneud, yn paratoi neu’n trin bwyd sy'n dod o anifeiliaid i'w gyflenwi i fusnesau eraill.
Sut i gofrestru
Os ydych yn berchen ar fusnes bwyd ar Ynys Môn, neu wedi cymryd drosodd busnes bwyd yn Ynys Môn, mae'n ofyniad cyfreithiol i gofrestru eich busnes gyda ni o leiaf 28 diwrnod cyn agor neu gymryd perchnogaeth ohono.
Cofrestrwch ei busnes bwyd
Os oes ganddoch unrhyw gwestiynnau neu sylw, llenwch ein ffurflen ar-lein o dan yr adran gyswllt ar y tudalen yma. Dewiswch Gwarchod y Cyhoedd/Iechyd yr Amgylchedd.
Ceir gwybodaeth am y gofynnion cyfreithiol ar gyfer busnes bwyd yma.