Yn gyffredinol, Dŵr Cymru sy’n gyfrifol am y dŵr yn y pibellau cyflenwi sy’n ffurfio’r Prif Gyflenwad Dŵri’r Cyhoedd.
Mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed (ADW) yn monitro ac yn rheoleiddio ansawdd y dŵr o’r prif gyflenwad yn rheolaidd ar yr ynys.
Ymholiadau a chwynion
Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu gyda Dŵr Cymru ar 08000520130.
Gall y Cyngor ddelio gyda rhai cwynion neu bryderon, ond yn gyntaf, byddwn yn gwneud ymholiadau i weld beth y mae Dŵr Cymru wedi ei wneud.
Mae’n arferol i’r Cyngor ofyn i Dŵr Cymru ymchwilio yn gyntaf cyn cymryd unrhyw gamau pellach.