Cyngor Sir Ynys Môn

Partneriaeth

Mae Bwrdd Partneriaeth Ynys Cybi yn cynrychioli’r ardal leol, gan gynnwys cymuned, busnes, datblygiad a rhanddeiliaid rheoliadol. Yn ogystal, mae dros 40 o randdeiliaid yn ymwneud â chwe grŵp gwaith y cynllun. Mae'r bartneriaeth yn dod â'r gwahanol randdeiliaid hyn ynghyd, gan rannu arfer gorau a dysgu, a darparu'r ystod eang o sgiliau ac arbenigedd sy'n ofynnol i ddarparu cynllun cyffredinol er budd Ynys Cybi gyfan.

Mae pwyslais cryf ar syniadau lleol o'r dirwedd, a blaenoriaethau cymunedau lleol. Mae ffocws ar agweddau diwylliannol y dirwedd, ei rôl wrth hyrwyddo ansawdd bywyd a lles cymdeithasol, a'i rôl fel adnodd economaidd. Mae ymgyrch hefyd i wella dealltwriaeth o nodweddion a buddion y dirwedd ymhlith y gymuned leol. Er mwyn gwneud treftadaeth arbennig yr ynys yn berthnasol i fywyd bob dydd.

Bydd y cynllun Partneriaeth Tirwedd yn rhedeg rhwng 2021 - 2025 ac rydym eisoes yn cynllunio y tu hwnt i hyn i sicrhau y gellir gwireddu etifeddiaeth hirdymor y cynllun yn yr hinsawdd economaidd a gwleidyddol sy'n fwyfwy ansicr. Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu o fewn y fframweithiau rheoleiddio rhanbarthol presennol, ac wedi'i alinio â blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol tymor hir i'n rhoi mewn sefyllfa gref i allu datblygu'r prosiectau cychwynnol hyn ymhellach yn y dyfodol, ac adeiladu ar y sylfeini cryf a osodwyd dros y pedair blynedd hyn.

Cyflwyno’r Weledigaeth a’r Nodau Strategol

Mae ‘Ynys Cybi: Ynys i’w Thrysori – Our Island Gem,’ yn raglen o brosiectau a gweithgareddau sydd wedi’w dylunio i gyflawni rhai o'r newidiadau sy'n angenrheidiol i wireddu ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer yr ynys:

Ein Gweledigaeth

“Cymuned fywiog, yn gwbl ymwybodol o’r rôl y mae tirwedd nodedig Ynys Cybi yn ei chwarae wrth gefnogi swyddi a gweithgareddau hamdden lleol, a gwella ein hiechyd a’n lles cyffredinol.

“Pobl leol yn gweithio gyda’i gilydd i amddiffyn a rheoli treftadaeth gyfoethog ein hynys, gan gefnogi cymuned lewyrchus a rhoi croeso arbennig i ymwelwyr am genedlaethau i ddod.”

Y Nodau Strategol

Mae'r partneriaid wedi nodi pedwar nod strategol (NS) y byddwn yn ymdrechu tuag atynt er mwyn gwireddu'r weledigaeth. Bydd holl weithgareddau'r cynllun wedi'u hanelu at:

  • NS1: Rheoli a mireinio nodweddion allweddol treftadaeth naturiol yr ynys
  • NS2: Cadw a rheoli nodweddion allweddol cymeriad, ymddangosiad a threftadaeth yr ynys
  • NS3: Cynyddu dealltwriaeth leol ac ymfalchïo yn nhreftadaeth unigryw Ynys Cybi, a datblygu'r gallu I’w reoli yn gynaliadwy
  • NS4: Datblygu a hyrwyddo Ynys Cybi fel porth rhyngwladol eiconig i Gymru