Mae'r canlynol yn darparu gwybodaeth, dolenni a manylion cyswllt ar gyfer nifer o gynlluniau datblygu gwledig.
Nid yw pob cynllun wedi'i restru yma, ac mae ardaloedd gwledig hefyd yn gymwys ar gyfer ystod o gynlluniau cymorth ehangach/cyffredinol.
Fforwm Gwledig CLlLC
Mae'r cyngor sir yn aelod o Fforwm Gwledig CLlLC ar gyfer awdurdodau lleol sy'n cwmpasu ardaloedd gwledig yng Nghymru.
Mae'r Fforwm yn ystyried ac yn lobïo dros bolisïau i gefnogi anghenion Cymru Wledig.
Menter Môn
Sefydlwyd Menter Môn yn wreiddiol yn 1995 i ddarparu prosiectau datblygu gwledig arloesol ar Ynys Môn.
Mae bellach yn fenter gymdeithasol ddielw sy'n darparu ystod eang o brosiectau a gwasanaethau ledled Gogledd Cymru. Mae Menter Môn yn ceisio ychwanegu gwerth at adnoddau'r rhanbarth er budd trigolion lleol.
Ymhlith y rhain mae'r amgylchedd naturiol ac adeiledig, treftadaeth, iaith, pobl a chynnyrch amaethyddol.
Ffôn: 01248 725 700
Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) i Gymru
Mae Rhaglen Datblygu Gwledig yr UE, sy'n cau yn 2023, wedi cefnogi llawer o brosiectau gwledig ar Ynys Môn.
Menter Môn fu'r corff arweiniol ar gyfer Partneriaeth Gwledig Ynys Mon / Grŵp Gweithredu Lleol.
Nod Llywodraeth Cymru yw parhau i gefnogi camau pwysig a ariannwyd yn flaenorol o dan y Cynllun Datblygu Gwledig.
Cefnogaeth llywodraeth y DU i ardaloedd gwledig
Mae llywodraeth y DU hefyd yn ymwneud â chefnogi amaethyddiaeth a chymunedau gwledig.
Bu Cronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig ac mae'r adnoddau Cronfa Ffyniant Gyffredin a ddyrannwyd i Ynys Môn yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau ar draws yr ynys.
Cefnogaeth i ffermio ac arallgyfeirio fferm
Mae amryw o gynlluniau cyngor a chymorth ar gael drwy gynllun Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru.
Mae Swyddog Cyswllt Ffermio penodol ar gyfer Ynys Môn.
Mae angen i ffermwyr gofrestru i dderbyn y gefnogaeth hon.
Manddaliadau a thir amaethyddol
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn berchen ac yn rheoli ystâd o ffermydd a thir fferm ar draws yr Ynys.
Yn amodol ar argaeledd, cynigir tenantiaethau fferm i annog mynediad i'r sector amaethyddol lleol.
Grantiau a thaliadau gwledig Llywodraeth Cymru
Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau cymorth ariannol amrywiol sy'n ymwneud â ffermio, cynhyrchu bwyd, a choetir.
Gall y rhain newid dros amser.