Trosolwg o gynlluniau adfywio canol tref cyfredol ac arfaethedig ar Ynys Môn gan Swyddogaeth Adfywio'r Cyngor Sir.
Trefi Môn
Mae pum tref gydnabyddedig ar Ynys Môn (poblogaeth mewn cromfachau)
- Caergybi (11,431)
- Llangefni (5,116)
- Amlwch (3,849)
- Porthaethwy (3,376)
- Biwmares (1,804)
Mae gan y trefi hyn Gynghorau Tref sy'n cyflawni llawer o swyddogaethau lleol.
Dynodiadau trefi
Dynodir Caergybi yn Ardal Twf Rhanbarthol gan Lywodraeth Cymru. Mewn polisïau cynllunio lleol, mae Caergybi, Llangefni ac Amlwch yn ganolfannau Gwasanaethau Trefol a Chanolfannau Cyflogaeth, a'r ddwy arall yn Ganolfannau Gwasanaethau Lleol.
Mae angen economaidd ar ei uchaf yng Nghaergybi, gyda 7 LSOA yn yr 20% sydd fwyaf difreintiedig yng Nghymru, gydag 1 ardal o’r fath yn Llangefni. Mae lefelau amddifadedd incwm yng Nghaergybi, Llangefni ac Amlwch yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Mae cyfyngiadau cyllidebol yn golygu bod llawer o’r cronfeydd yn gyfyngedig i rai trefi/ardaloedd sydd â'r angen uchaf.
Mae crynodeb data amddifadedd 2019 ar gyfer trefi Ynys Môn ar gael i lawrlwytho.
Mae Amlwch yn flaenoriaerth o fewn Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Môn. Dylid cyfeirio ynrhyw ymholiadau perthnasol i'r Tim Datblygu Economaidd.
Strategaeth Gwella Canol Trefi 2023 i 2028
Mae’r Cyngor Tref wedi paratoi fframwaith strategol ar gyfer gwella canol trefi Ynys Mon. Yn dilyn proses ymgynghori cyhoeddus, cafodd fersiwn terfynol o’r strategaeth sy’n alinio efo Cynllun y Cyngor ei gytuno ar y 26 Medi 2023.
Strategaeth Gwella Canol Trefi 2023 i 2028 - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Trawsnewid trefi
Mae hwn yn derm ymbarél a ddefnyddir bellach gan Lywodraeth Cymru (LlC) i gwmpasu ystod eang o gynlluniau cyllido a mentrau eraill sydd wedi'u cynllunio i gefnogi a gwella canol trefi yng Nghymru.
Mae'r rhain yn cynnwys grantiau cyfalaf TRI, grantiau refeniw TRI, benthyciadau datblygu eiddo, cymorth gorfodi, polisïau a materion eraill.
Mae rhai o’r rhain yn berthnasol i bob canol tref ar Ynys Môn.
Adfywio rhanbarthol
Mae chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru a LlC yn gweithio'n agos i fynd i'r afael â materion adfywio canol trefi.
Rhaglen Buddsoddi Adfywio Targedig (TRI)
Mae Ynys Môn wedi elwa o gynllun c£3.5m Eiddo Gwag yng Ngogledd Orllewin Cymru 2018 i 2021 sydd wedi ariannu gwaith i addasu adeiladau gwag cymwys at ddefnydd preswyl, masnachol neu cymunedol mewn ardaloedd blaenoriaeth, yn cynnys creu hwb newydd i MonCF yng nghanol tref Amlwch.
Mae cynlluniau cyllido TRI llai eraill hefyd wedi gweithredu ac wedi elwa Ynys Môn, gan gynnwys cronfa addasiadau Covid canol trefi gwerth £108k.
Adeiladu am y dyfodol (BFF)
Sicrhaodd Ynys Môn gyllid ERDF o'r cynllun hwn i helpu i adnewyddu Neuadd y Farchnad Caergybi.
Benthyciadau canol tref
Gan ddefnyddio cyllid benthyciad Llywodraeth Cymru, efallai y bydd y Cyngor Sir yn gallu darparu benthyciadau tymor byr di-log ar gyfer cynlluniau datblygu eiddo cymwys yng nghanol y dref sy'n cwrdd â meini prawf y cynllun.
Yr ardaloedd targed yw canol tref Caergybi, Llangefni ac Amlwch.
Menter Treftadaeth Treflun Caergybi (THI)
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF) yn cyd-ariannu cynllun THI ail gam yng Nghanol Tref Caergybi i wella adeiladau hanesyddol a dod â gofod llawr hanesyddol yn ôl i ddefnydd.
Mae cyllid cyfatebol wedi'i ddarparu gan LlC. Cysylltwch â'r Tîm Adfywio Treftadaeth am fanylion.
Rhaglen Adfywio VVP Caergybi 2014 i 2017
Roedd y rhaglen TRI yn dilyn rhaglen Lleoedd Llewyrchus (VVP). Yn dilyn proses bidio cystadleuol ar draws Cymru fe sicrhawyd £8.5m o gyllid gan Lywodraeth Cymru tuag at fuddsoddiad o £40m mewn 40 prosiect cyfalaf.
Mae crynodeb o’r rhaglen ar gael i lawrlwytho.
Rhaglen Ffyniant Bro Caergybi 2023 i 2025
Yn dilyn proses gystadleuol ar draws y DU, mae’r cyngor wedi sicrhau £17m gan lywodraeth y DU i alluogi buddsoddiad £22m mewn chwe prosiect adfywio yng Nghaergybi.
Ewch i dudalennau Ffyniant Bro Caergybi
Trefi digidol/smart
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cefnogi cynllun sy'n cael ei arwain gan Menter Mon i ddarparu WiFi cyhoeddus yng nghanol trefi Ynys Môn, ac mae mentrau digidol eraill ar y gweill.
Cronfa ‘Creu Lle’ Canol Trefi
Mae'r Cyngor Sir Ynys Môn wedi sicrhau adnoddau cyfalaf PMG Llywodraeth Cymru i gyd-ariannu’r canlynol:
- cefnogi perchnogion i greu unedau llety preswyl modern mewn canol trefi
- ail-ddatblygu safle Clwb Cymdeithasol Biwmaris i greu tai cymdeithasol newydd
- cefnogi cynlluniau Hwb Mencap Mon a Canolfan Glanhwfa yn Llangefni
- addasiadau i adeilad hanesyddol Plas Alltran i greu pedwar uned preswyl
- galluogi prosiectau eraill i fynd i'r afael ag adeiladau masnachol canol tref gwag
Rydym yn ymchwilio i'r opsiwn o sefydlu Grant Gwella Eiddo Masnachol canol tref newydd yn y dyfodol.
Mynd i'r afael ag adeiladau problemus canol tref
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae'r Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio i fynd i'r afael ag adeiladau problemus.
Byddwn yn ceisio gwneud hynny mewn cydweithrediad â pherchnogion, ond os oes angen, gellir cymryd mesurau gorfodaeth perthnasol er budd cyhoeddus ehangach.
Mae enghreifftiau o adeiladau problemus hir-wag y mae'r Cyngor wedi rhoi sylw iddynt yn cynnwys Neuadd y Farchnad Caergybi, Plas Alltran, a Chlwb Cymdeithasol Biwmaris.
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Mae'n bosibl y bydd canol trefi Ynys Môn yn gallu cael rhywfaint o arian o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Mawrth 2021