Cyngor Sir Ynys Môn

Rhaglen ARFOR 2


Rhaglen ARFOR 2 (hyd at Mawrth 2025)

Ar 10 Hydref 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd £11 miliwn pellach yn cael ei ddarparu ar gyfer ail wedd ARFOR hyd at diwedd Mawrth 2025.

Bydd y rhaglen yn parhau i weithredu ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, er mwyn: “Cefnogi'r cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyraethau economaidd fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol”.

Amcanion strategol ARFOR

  1. Creu cyfleoedd i pobl a teuluoedd ifanc (35 oed neu iau) aros neu i ddychwelyd i’w cymunedau cynhenid - gan eu cefnogi i lwyddo’n lleol drwy fentro neu ddatblygu gyrfa a sicrhau bywoliaeth sydd yn cyflawni eu dyheadau.
  2. Creu cymunedau mentrus o fewn y fro Gymraeg - drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy’n anelu i gadw a chynyddu cyfoeth lleol gan fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd.
  3. Uchafu budd gweithgaredd drwy gydweithio - drwy sefydlu meddylfryd dysgu drwy wneud a gwella parhaus, dysgu o weithgaredd o fewn ardaloedd unigol ac yna ei ymestyn, ond gyda teilwra i amgylchiadau lleol.
  4. Cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg - drwy gefnogi defnydd a gwelededd y Gymraeg, annog naws am le a theyrngarwch lleol, ynghyd â chynyddu ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n gyffredin ar draws yr rhanbarth.

Trosolwg o'r gwahanol ffrydiau gwaith

Cronfa Cymunedau Mentrus – Ynys Môn

Grantiau i gefnogi datblygiad economaidd a’r Gymraeg i fusnesau ar Ynys Môn (a weinyddir gan Gyngor Sir Ynys Môn)

Trosolwg o'r cynnydd hyd yma;

*Cronfa bellach wedi'i dyrannu'n llawn

Mynd i Cronfa Cymunedau Mentrus- Ynys Môn.

Cytundebau rhanbarthol a reolir gan swyddfa rhaglen ARFOR

Llwyddo’n Lleol 2050

Gweinyddir gan Menter Môn

Nod Llwyddo'n Lleol yw dangos bod cyfleoedd cyffrous a dyfodol disglair ar gael yn ardaloedd ARFOR. Cynnig cymorth i unigolion dan 35 oed i allu adnabod y cyfleoedd gwaith yn eu hardaloedd a chynnig cymorth i fusnesau gynnig cyflogaeth i bobl ifanc lleol. Mae unigolion a busnesau wedi derbyn cymorth tuag at gostau cyflog, cyfleoedd arbennig, a/neu hyfforddiant i staff.

Mynd i Llwyddo’n Lleol (agor mewn tab newydd).

Cronfa Her

Gweinyddir gan Mentera.

Prosiectau arloesol i archwilio atebion sy'n cryfhau'r berthynas rhwng iaith ac economi.

Prosiectau a leolir ar Ynys Môn a arweinir gan M- Sparc;

Rhwydwaith Cymry Llundain

Cynllun sy’n rhoi cyfle i M-SParc a’r rhanbarth i amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael ar draws Ardal ARFOR i gymuned Cymry Llundain.

Gwlad y Gemau (Cwmni Haia)

Cynllun i adfywio’r Gymraeg drwy arloesedd Esports a thechnoleg iaith.

MySparc

Porth digidol (ar ffurf Ap) fydd yn dod ag eco-system fusnes, menter, academia, myfyrwyr a buddsoddwyr at ei gilydd mewn un lle i greu cymuned Arloesi ARFOR.

Academi Iaith a Gwaith

Cynllun cyflogaeth sy’n cynnig gwaith o safon i bobl leol sy’n rhoi’r cyfle iddynt ddysgu neu wella a defnyddio’r iaith Gymraeg. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau tra’n cyflogi; a chreu gofodau Cymraeg.

Bwrlwm ARFOR

Arweinir gan Grŵp Ymgynghori Lafan sydd yn rhannu casgliad o straeon, ymgyrchoedd, digwyddiadau, gweithdai ac astudiaethau achos sy’n dathlu twf economaidd a chryfder y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn.

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen a'i chronfeydd rhanbarthol, ewch i wefan ARFOR (agor mewn tab newydd).