Rhaglen ARFOR 1 (daeth i ben Mawrth 2021)
Yn 2019, darparwyd £2 miliwn gan Lywodraeth Cymru i Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn i dreialu dulliau arloesol o gefnogi'r economi yng nghadarnleoedd y Gymraeg a gwireddu’r targedau canlynol :
- Hybu mentrau a chefnogi twf busnes mewn ardaloedd lle mae canran uchel o’r bobl yn siarad Cymraeg
- Sicrhau swyddi gwell sy’n talu’n well i gadw pobl leol yn yr ardaloedd hyn ac annog pobl sydd wedi gadael i ddod yn ôl
- Hyrwyddo gwerth dwyieithrwydd a’r Gymraeg mewn busnesau
- Annog busnesau a phobl sy’n symud i ardaloedd gwledig i werthfawrogi a defnyddio’r Gymraeg
Cynlluniau ARFOR 1 Ynys Môn
Darparwyd £468k i Ynys Mon mewn cyllid refeniw dan Arfor 1, a hefyd fe sicrhawyd £160k mewn cyllid Cyfalaf gan Lywodraeth Cymru yn 2021.
Fe beilotwyd sawl cynllun yma, gyda 75 grant yn cefnogi:
- 42 busnes yn bodoli a 18 busnes newydd
- 60.5 swydd newydd a 108.5 swydd yn bodoli
- 36 cynnyrch neu wasanaeth newydd
- mwy na £750,000 o fuddsoddi preifat
- 48 busnes yn cynnyddu eu defnydd o’r Gymraeg
Y sector preifat fu'n gweithredu mwyafrif y cynlluniau. Trefnwyd y grantiau gan y Cyngor Sir a Menter Iaith Môn, gyda chymorth hefyd gan Busnes Cymru a'r Hwb Menter.
Defnyddwyd cyllid ARFOR hefyd i ddylunio’r canlynol i hyrwyddo gwerth a defnydd y Gymraeg ymysg pobl a busnesau:
Llwyddo’n Lleol 2050
Bu ymgyrch ar draws Gwynedd a Môn drwy Menter Mon i hyrwyddo a codi ymwybyddiaeth am entrepreneuriaeth a cyfleon gwaith lleol cyffrous sydd yn bodoli rŵan ac yn y dyfodol i bobl ifanc. Rhoddwyd cefnogaeth/profiad busnes i 14 o bobl ifanc.
Prosiectau rhanbarthol
Bu’r siroedd yn cydweithio ar nifer o weithgareddau. Comisiynwyd cwmni Wavehill i werthuso’r gweithgareddau a llunio argymhellion i’r dyfodol, a cafodd Golwg 360 eu comisiynu i hyrwyddo storiau ARFOR drwy Bwrlwm Arfor. Rheolwyd y cynlluniau rhanbarthol yma gan Gyngor Gwynedd fel y corff arweiniol.
Gwerthusiad
Cafodd y gwerthusiad allanol o raglen ARFOR 1 gan Wavehill ei ddefnyddio i gefnogi proses cynllunio ARFOR 2 a mae copi ar gael ar wefan ARFOR.
Mae gwerthusiad lleol mewnol o Arfor 1 ar Ynys Môn hefyd wedi ei wneud ac mae copi ar gael ar y dudalen hon i'w lawrlwytho.