Cyngor Sir Ynys Môn

Archwilio cyfrifon 2023i 2024 - rhybudd am hawliau cyhoeddus

Hysbysiad cyhoeddus am archwilio cyfrifon cynghorau ar gyfer 2023 i 2024.

Hysbysir drwy hyn, yn unol ag Adrannau 29 i 32 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004:

  • Y gall unrhyw etholwr lleol, rhwng dydd Llun, 2 Medi 2024 a dydd Gwener, 27 Medi 2024 (yn gynwysedig), yn ystod yr amseroedd isod: ofyn am gael archwilio a gwneud copïau o gyfrifon y corff a enwir uchod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbyniadau yn ymwneud â nhw, yn amodol ar ofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
  • Bydd y ddogfen Datganiad o Gyfrifon drafft ar gyfer 2023/24 ar gael i’w harchwilio yn Swyddogaeth Adnoddau’r Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 4.30pm.

Mae’r ddogfen ar gael ar wefan y Cyngor hefyd, yn y cyfeiriad gwe canlynol:

https://www.ynysmon.llyw.cymru/documents/Dogfennau-Cy/Cyllid/Datganiad-or-cyfrifon/2023-2024/Datganiad-or-cyfrifon-Drafft-2023-2024.pdf

  • Er mwyn caniatáu i ni wneud trefniadau priodol ar gyfer archwilio’r dogfennau, neu anfon gwybodaeth drwy’r post neu ar e-bost, gofynnwn i etholwyr wneud apwyntiad drwy anfon e-bost at ClaireKlimaszewski@ynysmon.llyw.cymru neu dros y ffôn ar (01248) 752602, neu drwy ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, Adran Adnoddau, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW. 
  • Ar, neu ar ôl dydd Llun, 30 Medi 2024, bydd yr Archwilydd penodedig (Adrian Crompton, Archwilio Cymru, 1 Cwr Y Ddinas, Caerdydd, CF10 4BZ), ar gais unrhyw etholwr llywodraeth leol yn yr ardal y mae’r cyfrifon yn ymwneud â hi, yn rhoi cyfle i’r etholwr neu ei gynrychiolydd ef/hi ei holi am y cyfrifon, a gall unrhyw etholwr o’r fath neu ei gynrychiolydd, ddod gerbron yr Archwilydd i wrthwynebu’r cyfrifon mewn perthynas ag unrhyw fater ble gall yr archwilydd gymryd camau o dan:
    • Adran 32 o’r Ddeddf – sef gofyn i’r llys am ddatganiad bod eitem yn y cyfrifon yn groes i’r gyfraith a/neu
    • Adran 22 o’r Ddeddf – gwneud adroddiad er budd y cyhoedd.
  • Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o unrhyw wrthwynebiad yn y lle cynaf i’r Archwilydd penodedig gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod. Rhaid cyflwyno copi o’r hysbysiad ysgrifenedig hefyd i’r Swyddog Adran 151, Adran Adnoddau, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW.

R Marc Jones FCPFA
Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) – Swyddog Adran 151
Swyddogaeth (Adnoddau)
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn LL77 7TW 

16 Awst 2024