Mae 14 o glybiau ieuenctid ar yr ynys lle gall pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed gwrdd â'u ffrindiau am sgwrs ac ymlacio!
Rydym yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad yn ogystal â darparu sesiynau hwyl fel coginio, celf a chrefft, dawns a drama, gemau tîm, gweithgareddau corfforol a mae gennym Clwb LGBTQ+ ar gael ym mhob ysgol.
Rydym hefyd yn cyflwyno materion addysgol fel diogelwch rhyngrwyd, cymorth cyntaf, byw'n iach ac ati.
Mae yna pump Swyddog Datblygu Ieuenctid Ardal Ysgol llawn amser sydd hefyd yn gweithio yn yr ygolion uwchradd sy'n cyflwyno sesiynau un i un a grŵp.
Maent hefyd yn cynnig gwobr Dug Caeredin ym mhob ysgol sy'n boblogaidd iawn.
Mae yna hefyd Weithiwr Ieuenctid Alcohol a Sylweddau wrth law i gynnig help a chefnogaeth i bobl ifanc.